Mae angen i chi feddwl am ambell beth cyn i chi ymrwymo i arwyddo cytundeb a rhentu eiddo.
Gall symud i mewn i'ch ty cyntaf yn y sector preifat gyda'ch ffrindiau fod yn adeg gyffrous iawn – yr holl gyffro o chwilio am y ty gorau ac yna, pan fyddwch chi o'r diwedd yn dod o hyd i'r lle iawn, cewch ei droi'n gartref. Serch hynny, mae angen i chi feddwl am ambell beth cyn i chi ymrwymo i arwyddo cytundeb a rhentu eiddo. Cefais i sawl problem gyda fy landlord a fy nghydletywyr gydol fy nghyfnod fel myfyriwr a rhoddodd hynny lawer o straen arnaf – dyma fy hintiau handi ar gyfer sicrhau bod eich cyfnod yn y sector preifat mor dda ag y gall fod:
- Peidiwch â theimlo fel bod pwysau arnoch i ymrwymo i eiddo – bydd landlordiaid ac asiantaethau'n dweud wrthych fod eiddo'n cael eu cymryd yn gyflym er mwyn rhoi pwysau arnoch i arwyddo cytundeb cyn gynted â phosib. Arwyddwch gytundeb pan fo'n addas i chi – er gwaetha'r hyn y gallai landlordiaid wneud i chi ei gredu, fyddwch chi ddim heb dy os nad ydych chi'n arwyddo'r cytundeb yn syth.
- Sicrhewch eich bod chi'n gwybod yr hyn rydych chi'n chwilio amdano – ystyriwch y campws rydych chi'n astudio arno, eich oriau cyswllt yn y brifysgol ac a yw lleoliad yr eiddo yn addas i'ch anghenion – ydy'r lle ger y safleoedd bws ayyb.?
- Sicrhewch fod yr eiddo'n gweddu i'ch anghenion – a oes digon o ystafelloedd gwely a pha ddodrefn sydd ym mhob ystafell? Beth yw maint mannau cymunol y ty o'u cymharu â nifer y bobl sy'n byw ynddo – a oes digon o le yn y cypyrddau/oergell/rhewgell i chi i gyd yn y gegin?
- Sicrhewch eich bod chi'n gwybod cynnig yr eiddo – a oes biliau wedi'u cynnwys (e.e. nwy, dwr, trydan, rhyngrwyd, trwydded deledu) neu a oes rhaid i chi dalu am y rheiny ar ben eich rhent?
- Crëwch gyllideb sy'n addas i chi – faint yw'r rhent a'r biliau yr wythnos/y mis ac a oes modd i chi eu fforddio?
- Sicrhewch eich bod chi'n sicr gyda phwy rydych chi am fyw – o fewn y mis cyntaf o fyw mewn llety preifat, ffraeodd rhai o fy nghydletywyr ac o ganlyniad cawson ni'r profiad gwaethaf o fyw gyda'n gilydd am y flwyddyn gyfan. Sicrhewch eich bod chi'n 100% sicr eich bod chi'n hapus i ymrwymo i fyw gyda'ch gilydd am o leiaf blwyddyn.
- Sicrhewch eich bod chi'n gwybod yr hyn rydych chi'n arwyddo amdano – sicrhewch eich bod chi'n darllen y cytundeb yn drylwyr i wybod yn union yr hyn y disgwylir gennych yn ystod eich tenantiaeth ac i wirio pa mor hir yw'r denantiaeth. Peidiwch â bod ofn cwestiynu unrhyw beth nad ydych chi'n ei hoffi ac os nad ydych chi'n sicr ynglyn ag unrhyw beth, dylech chi geisio cyngor cyn arwyddo. Mae gennym ni ymgynghorwr yma yn Undeb y Myfyrwyr a fydd yn fwy na bodlon darllen eich cytundeb gyda chi i sicrhau bod popeth yn deg.
- Pethau eraill i'w hystyried – cofiwch y bydd y landlordiaid/asiantaethau yn gofyn i chi dalu blaendal a chael gwarantwr er mwyn byw yn eu heiddo.
- Gofynnwch i'ch cyfoedion – mae'n debyg y byddwch chi'n adnabod llwyth o fyfyrwyr ail neu drydedd flwyddyn sydd eisoes yn byw mewn llety preifat – gofynnwch iddyn nhw am gyngor ar eu profiadau ac a ydyn nhw'n argymell unrhyw landlordiaid/asiantaethau.
- Yn bwysicaf oll, peidiwch ag arwyddo tan i chi fod yn barod. Mae digon o opsiynau ar gael a does dim brys i ddod o hyd i rywle i fyw.
Gan Naomi, Swyddog Lles UM Aber