Ymhen llai na thri mis, bydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn cynnal ei 6ed Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol. Ond yr hyn sy'n fwy cyffrous na hynny yw'r ffaith bod enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni ar agor!
Ymhen llai na thri mis, bydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn cynnal ei 6ed Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol. Ond yr hyn sy'n fwy cyffrous na hynny yw'r ffaith bod enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni ar agor!
Eleni, bydd y gwobrau'n fwy ac yn well nag erioed o'r blaen, gyda 13 o wobrau i'w cyflwyno; yn amrywio o Ddarlithydd y Flwyddyn i Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg, ac o Diwtor Personol y Flwyddyn i Adran y Flwyddyn. Mae gennym wobrau newydd sy'n cynnwys gwobr Adborth Eithriadol, gwobr Dysgu Arloesol a gwobr y Cam Nesaf.
Mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer y gwobrau, a gallwch enwebu ar ein gwefan tan 12 Mawrth; dyma'r categorïau ar gyfer eleni:
- Darlithydd y Flwyddyn
- Aelod Staff Ategol / Gwasanaethu'r Flwyddyn
- Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
- Goruchwyliwr y Flwyddyn - Ôl-raddedig
- Goruchwyliwr y Flwyddyn - Israddedig
- Adran y Flwyddyn
- Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg
- Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
- Gwobr Ddysgu Arloesol
- Tiwtor Personol y Flwyddyn
- Gwobr Adborth Eithriadol
- Gwobr Cam Nesaf
- Gwobr Arwain Cydraddoldeb
Ar ein gwefan, gallwch hefyd weld y meini prawf y byddwn yn eu defnyddio i feirniadu'r enwebiadau.
Llynedd, derbyniwyd ychydig dros 500 o enwebiadau ar draws 10 categori; Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol enillodd wobr Adran y Flwyddyn, a rhoddwyd cydnabyddiaeth i dros 40 o fyfyrwyr a staff. Eleni, byddwn yn cydnabod dros 50 o fyfyrwyr a staff; rydym am chwalu ein targed o dros 650 o enwebiadau, a phwy wyr pwy sy'n mynd i ennill Adran y Flwyddyn eleni ;) ;) ;) ;).