Mae Dawns Ryng-gol 2016 yn bendant am fod yn un o'r goreuon eto eleni!
Yn gyntaf mae yna chwip o line-yp i’r ddawns gyda chyfle prin y gaeaf hwn i glywed un o hoelion wyth y sîn, Yws Gwynedd, yn chwarae. Dyma’r tro gyntaf i Brython Shag berfformio yma yn Aberystwyth a dwi’n siwr neith y band ddiddanu’r dorf. Dwi hefyd yn hynod o falch o’r amrywiaeth sydd ar gynnig gyda Mellt, Omaloma a band newydd o ochrau Gaerfyrddin, Los Blancos yn chwarae.
Ond nid cerddoriaeth yn unig fydd yn digwydd dros y penwythnos, mi fydd yna gystadlaethau chwaraeon yn cael eu cynnal ar y dydd Sadwrn, o Rygbi 7 bob ochr i bêl-rwyd a phêl-droed. Ar y nos Wener mi fydd yna Stomp yn y Cwps a chyfle i gymdeithasu ar hyd strydoedd Aber a phrofi un o’r nosweithiau gorau yng Nghymru. Cofiwch hefyd fanteisio ar y cynigion sydd ar gael dros y penwythnos, wrth ddangos eich bandiau arddwrn yn y llefydd priodol. Yn olaf, mae UMCA yn hynod o ddiolchgar i Ochr 1 am noddi’r Ddawns Ryng-gol eleni a chefnogi digwyddiadau byw!
Cadwch lygad ar Snapchat dros y penwythnos am sypreis ganddynt! Dwi'n mawr obeithio y cewch chi benwythnos i’w gofio yma yn Aberystwyth.
Diolch,
Rhun