Disgleiria, Diamond

Yn un o fy mlogiau y semester diwethaf, siaradais i am Adolygiad Diamond a gafodd ei gyhoeddi fis Medi yn dilyn adolygiad hir o gyllido addysg uwch, cyllid a chynhaliaeth myfyrwyr yng Nghymru.

laurenofficerblogwelshpresidentwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Yn un o fy mlogiau y semester diwethaf, siaradais i am Adolygiad Diamond a gafodd ei gyhoeddi fis Medi yn dilyn adolygiad hir o gyllido addysg uwch, cyllid a chynhaliaeth myfyrwyr yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adolygiad fis Medi a bu rhaid aros misoedd tan gyhoeddi'r argymhellion ac ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Ar y cyfan, mae undebau myfyrwyr, gan gynnwys UCM Cymru, yn hynod o hapus gydag argymhellion Adolygiad Diamond, am ein bod ni'n credu eu bod yn mynd i'r afael â chost bod yn fyfyriwr yn y meysydd pwysicaf: o ran cynhaliaeth, costau byw a chymorth y tu hwnt i ffioedd dysgu.

Dyma argymhellion yr adolygiad (ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i'r canlynol):

  • Bydd cymhorthdal ffi myfyrwyr o Gymru yn cael eu dileu a bydd pob myfyriwr o Gymru'n talu ffi dysgu £9000
  • Serch hynny, bydd yr arian a fyddai wedi cael ei wario ar y cymhorthdal yn mynd at becyn cynhaliaeth blaengar. Caiff pob myfyriwr o Gymru grant £1000 sy'n dibynnu ar brawf modd – nid yw hyn yn dibynnu ar incwm y cartref a ni fydd rhaid ad-dalu'r un geiniog. Yn ogystal â hynny, bydd modd i bob myfyriwr wneud cais am grant hyd at £8,100 ar dapr sy'n dibynnu ar brawf modd (gweler isod), sef cynnydd enfawr o'r uchafswm benthyciad presennol, £7000 (a'r diffyg grantiau o gwbl)
  • Dylid cynyddu tapr profion modd cynhaliaeth incwm teuluol o £18,000 - £59,000 ac felly'n rhoi mwy o gyfle i fyfyrwyr gael cymorth
  • System gynhaliaeth pro-rata rhan amser ar sail dwyster y cwrs
  • System gymorth a benthyciadau dros dro i ôl-raddedigion a bwriad hwnnw yw rhoi cymorth ariannol i ôl-raddedigion yn yr un modd ag israddedigion o 2018 ymlaen
  • Ailddechrau talu ffioedd atodol y rheiny sy'n astudio pynciau meddygol
  • Dylai CCAUC gyhoeddi holl gostau'r prifysgolion yn rheolaidd i isafu effaith costau cudd ar fyfyrwyr
  • Parhau i gynorthwyo'r Coleg Cymraeg

Dwi wedi bod yn gweithio'n agos ac yn rhagweithiol gydag UCM Cymru, fel aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Cymru (PGCC) ac fel Llywydd UMAber, i leisio fy marn ac i gynrychioli anghenion myfyrwyr yng Nghymru i ymateb i'r argymhellion uchod, a thynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth mae'r adolygu wedi'u hepgor o bosib, a galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ac i weithredu'r pecyn cyfan. Mae hyn oll wedi cyfrannu at ymateb cynhwysfawr gan UCM Cymru a fydd yn dweud wrth Lywodraeth Cymru yr hyn sydd ei angen ar y chwarter miliwn o fyfyrwyr yng Nghymru gan system gynhaliaeth ariannol.

Mae hwn yn gam ymlaen blaengar a phwysig i gyllid myfyrwyr yng Nghymru, a dwi'n falch bod Cymru wedi cynnig system sy'n gobeithio ehangu mynediad i addysg a mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb mae myfyrwyr yn ei wynebu wrth fynd i AB ac AU. Bydd yn rhoi cyfle i fwy o fyfyrwyr ffynnu mewn addysg uwch a gaiff ei marchnadeiddio fwyfwy.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576