Cronfa Haf: pam ddylech chi wneud cais nawr!

Pan oeddwn i'n dod at ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf 'nôl yn 2014, sylweddolais i fod yr haf yn nesáu a doedd gen i ddim cynlluniau. Roeddwn i'n gwybod roeddwn i am wneud rhywbeth cyffrous, rhywbeth anturus ond gwerth chweil, felly dechreuais i edrych ar wahanol gyfleoedd i wirfoddoli dramor.

naomiofficerblogwelshwelfarewelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pan oeddwn i'n dod at ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf 'nôl yn 2014, sylweddolais i fod yr haf yn nesáu a doedd gen i ddim cynlluniau. Roeddwn i'n gwybod roeddwn i am wneud rhywbeth cyffrous, rhywbeth anturus ond gwerth chweil, felly dechreuais i edrych ar wahanol gyfleoedd i wirfoddoli dramor. Ar ôl treulio llawer o amser yn chwilio, o'r diwedd des i o hyd i fudiad o'r enw Gap Creative – mudiad bach, newydd sbon yng Nghenia sy'n recriwtio gwirfoddolwyr i ddysgu pynciau creadigol, fel drama, celf, dawns a ffotograffiaeth, mewn ysgolion a chartrefi plant amddifad lleol. A minnau'n teimlo'n nerfus, gwnes i gais, ac ychydig wythnosau'n ddiweddarach, roedd fy nghynlluniau am dreulio 6 wythnos o fy haf yng Nghenia yn dysgu drama a ffotograffiaeth yn dechrau dwyn ffrwyth.

Tan i mi sylweddoli cymaint y byddai rhaid i mi ei dalu ar gyfer y daith hon. Trafnidiaeth, yswiriant, brechiadau, deunydd addysgu, dillad ymarferol… roedd y ffigwr yn parhau i gynyddu! Yna roedd ystyried sut ar wyneb y ddaear roeddwn i am brynu popeth roedd eu hangen arna i'n banig llwyr. Fel myfyrwyr, mae arian yn destun sensitif beth bynnag, heb sôn am orfod cyllido pethau fel hyn. Ond mae teithiau fel hon mor bwysig o ran datblygu personol a gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl eraill. Dyna pam roedd cael gwybod am y Gronfa Haf yn fendith fawr; roeddwn i'n sgrolio drwy fy ffrwd Facebook un diwrnod pan welais i bost gan yr Undeb amdani ac anfonais i gais yn syth. Doedd dim byd i'w golli! A'r wobr? £500 at fy nhaith i Genia. Y cyfan roedd rhaid i mi ei wneud yn y cais oedd rhoi manylion fy nhaith; i ble roeddwn i'n mynd, yr hyn byddwn i'n ei wneud a pham oeddwn i'n meddwl y byddai'n dwyn budd i mi ac i eraill, yn ogystal â rhoi crynodeb byr o gost fy nhaith. Roedd hi mor braf cael e-bost ymhen cwpl wythnosau'n dweud fy mod i wedi derbyn y swm llawn, sef £500. Rhyddhad mawr oedd gwybod y byddai modd i mi fforddio'r pethau roedd eu hangen ar gyfer profiad gorau fy mywyd.

Bu fy nghyfnod yng Nghenia gyda Gap Creative yn hynod werthfawr; bu modd i mi rannu fy mhrofiadau ag eraill, yn ogystal â byw mewn diwylliant cwbl newydd a dysgu amdano. Cwrddais i â chymaint o bobl wych, gwelais i rai o olygfeydd prydfertha'r byd ac yn bwysicaf oll, gwelais i'r wên ar wyneb y bobl roeddwn i'n eu dysgu pan oedden nhw'n mwynhau fy ngwersi. Hefyd, gweithiais i gyda phobl leol fy oedran i oedd yn frwd am bynciau creadigol hefyd, sydd wedi dweud wrthyf i ers hynny eu bod nhw wedi cymryd yr hyn ddysgais iddyn nhw a'i ddysgu i blant ifanc lleol. Hefyd, roedd y gronfa yn golygu roedd modd i mi dreulio amser yn crwydro'r wlad tra roeddwn i yno, drwy fynd at gost teithiau fel saffari yn y Maasai Mara a gwersylla yn Llyn Baringo lle treulion ni amser yng nghwmni hipos a chrocodeiliaid. Mae pob atgof o fy nhaith fawr gyntaf dramor yn un melys a heb y Gronfa Haf, fyddwn i ddim wedi cael y profiad hwn.

 Os ydych chi wedi trefnu rhywbeth ar gyfer yr haf hwn ac am gael cyllid ychwanegol, pam ydych chi'n oedi? Os does gennych chi ddim cynlluniau ond rydych chi am fynd ar antur, beth am ystyried gwahanol gyfleoedd a gwneud cais am y cyllid i'ch helpu – dydy hi ddim yn rhy hwyr i chi ddechrau eich antur anhygoel!



Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576