Cost Bywyd yn y Brifysgol

Yn fy maniffesto, dwedais i roeddwn i am gael gwybod a yw myfyrwyr yn Aber yn wynebu ffioedd cudd ychwanegol yn eu cwrs ar ben eu ffioedd dysgu, a dechrau gweithio ar sut mae modd i ni leihau'r costau hyn.

laurenofficerblogwelshpresidentwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Dwi'n meddwl y gallwn ni gyd gytuno bod y brifysgol yn ddrud:

Ffioedd dysgu 9k, ac yn codi o hyd? Tic.
San Steffan yn dileu grantiau cynhaliaeth? Tic.
Ffioedd llety'n codi'n raddol bob blwyddyn? Tic.

Felly pam mae rhai prifysgolion yn meddwl ei bod hi'n iawn codi costau bach cudd ar fyfyrwyr ar ben hynny oll?

Yn fy maniffesto, dwedais i roeddwn i am gael gwybod a yw myfyrwyr yn Aber yn wynebu ffioedd cudd ychwanegol yn eu cwrs ar ben eu ffioedd dysgu, a dechrau gweithio ar sut mae modd i ni leihau'r costau hyn. Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd tîm UMAber yn crwydro ac yn siarad â chi ac yn holi pa gostau ychwanegol ydych chi'n eu hwynebu a beth ddylen ni ei wneud amdanynt.

Felly, dechreuwch feddwl – ydych chi'n talu gormod i barcio ar y campws bob dydd? Oedd rhaid i chi dalu am rywbeth sy'n rhan graidd o'ch cwrs, fel gwaith maes neu offer? Allwch chi fforddio prynu bwyd yn allfeydd y campws? Ydych chi'n meddwl bod dirwyon y llyfrgell yn afresymol? Byddwn ni'n gofyn hyn oll a mwy felly dewch i gael sgwrs â ni fel bod modd i ni sicrhau bod eich bywyd chi fel myfyrwyr yn fwy fforddiadwy.

Llenwch yr arolwg cyflym iawn yma i ddweud wrthym am yr holl gostau ychwanegol: https://www.surveymonkey.co.uk/r/LifeCostUni

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576