Cerdyn Sborti, Deisebau a Modelau Cyllido

Ers cyn cof, yma yn Undeb y Myfyrwyr mae wedi bod y flaenoriaeth gan y Swyddog Gweithgareddau (ac mae'n un o'm rhai i) i wneud rhywbeth ynglyn â'r Cerdyn Sborti felltith.

Activitiesjasmineofficerblogwelshwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Ers cyn cof, yma yn Undeb y Myfyrwyr mae wedi bod y flaenoriaeth gan y Swyddog Gweithgareddau (ac mae'n un o'm rhai i) i wneud rhywbeth ynglyn â'r Cerdyn Sborti felltith. Ond dwi'n mynd i gael y fraint o gyflwyno newyddion da i bawb! Rydyn ni (Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol) wedi sefydlu Gweithgor, sydd â'r amcan o geisio sefydlu modelau cyllido gwahanol ar gyfer darpariaethau chwaraeon, fyddai'n llai o rwystr i ymgysylltiad ein myfyrwyr mewn chwaraeon, ac yn annog mwy o bobl i gymryd rhan.

Mae chwaraeon yn rhan mor allweddol o'r dull o fyw yn Aberystwyth, ac rydym ymhlith y 5 prifysgol orau o ran Boddhad Myfyrwyr yn y DU gyfan - felly rhaid ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn! Mae gennym dros 50 o glybiau ar gael i'n myfyrwyr, ac rydym wastad yn cynnig cymorth i'n myfyrwyr ym mha bynnag ffordd y gallwn. Gall hyn fod ar ffurf helpu i sefydlu clwb newydd neu gyllido hyfforddwyr, trefnu sesiynau ymarfer, cystadlaethau a llwyth o bethau eraill gwych - pan oeddwn i'n fyfyriwr, doeddwn i ddim yn gwybod bod y rhain ar gael i mi!

Mae'n anodd o'r ddwy ochr, fel dwi wedi sylweddoli o fod yn y rôl hon. Mae'n disgwyl i fyfyrwyr dalu cyn eu bod hyd yn oed yn gallu talu i ymuno â chlwb yn ddryslyd, ac i amryw o fy ffrindiau, roedd yn rhwystr ariannol i gyfranogiad, oedd yn gwbl annheg. Mewn byd delfrydol, ni fyddai rhaid talu am gymryd rhan mewn chwaraeon, a gallai pawb ymuno â beth bynnag sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ond mae gweld y sefyllfa o safbwynt gwahanol yn dwyn sylw at ba mor ffodus ydyn ni. Mae'r holl arian a godir drwy werthiant y Cerdyn Sborti'n mynd yn ôl i chwaraeon. Mae'n cyllido costau llogi adnoddau, yswiriant, ymaelodaeth a theithio i gystadlaethau BUCS, costau cyflogi aelodau staff sy'n sicrhau bod popeth yn gweithio'n iawn, ac mae'n cael ei ddosbarthu ar ffurf grantiau. Sut mae disgwyl i fyfyrwyr wybod hyn heb fod rhywun yn dweud wrthyn nhw neu'n esbonio'r sefyllfa?

Rydyn ni wedi rhoi cyfle i'n clybiau chwaraeon gael dweud eu dweud gyda 4 sesiwn grwp ffocws yn ystod yr wythnos, lle gallwn drafod gwir gost chwaraeon a'r hyn y gallwn ni wneud fel rhywbeth amgen i'r Cerdyn Sborti. Mae'n gyffrous cael myfyrwyr cyfredol yn cymryd rhan mewn creu newid yn y ffordd rydyn ni'n defnyddio model cyllido chwaraeon, mewn ymdrech i ddatblygu modelau mwy effeithlon a chynaliadwy ar eu cyfer nhw a myfyrwyr y dyfodol.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576