Blog ymgyrch Lleol

Yn ystod y mis Mai mi fydd Ymgyrch LLEOL yn ei anterth. Pwrpas yr ymgyrch yw annog Myfyrwyr i siopa gyda busnesau lleol gan ddangos y buddion o wneud hynny i chi.

officerblogwelshrhunwelshWelshaffairs
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Shwmae, er bod mis Mai yn gyfnod anodd i fyfyrwyr gyda llwyth gwaith yn uchel mae’n bwysig eich yn mwynhau pob agwedd o'ch bywyd yma yn Aberystwyth. Yn ystod y mis Mai mi fydd Ymgyrch LLEOL yn ei anterth. Pwrpas yr ymgyrch yw annog Myfyrwyr i siopa gyda busnesau lleol gan ddangos y buddion o wneud hynny i chi. Mi fyddwn yn cyd-weithio gyda busnesau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynigion sydd ar gael o amgylch y dref.

Dyma gwpwl o bwyntiau am pam dylech chi gefnogi Ymgyrch LLEOL:

- Yn wahanol i’r gred gyffredinol mae’n bosib prynu cynnyrch sy’n llawer rhatach o siopau lleol nag o archfarchnadoedd a chwmnïau cadwyn. Mae’n bosib y byddwch yn gallu taro ar fargen gyda siop leol a chynigion arbennig i chi. Mi fyddwn yn dangos yr arbedion sy’n bosib trwy siopau’n lleol.

- Yn amgylcheddol mae’n llawer gwell siopa gyda busnesau lleol, mae’n fwy tebygol fod bwyd wedi teithio llai o bellter a bod y cynnyrch yn llai tebygol o gael ei masgynhyrchu. Mae’n golygu bod defnyddio siopau lleol yn llawer gwell o safbwynt amgylcheddol ac maent yn llai tebygol i ddefnyddio llawer o ddeunydd pacio. Mi fyddwn yn rhannu ryseitiau blasus sy’n rhad ac wedi cael ei gynhyrchu o fewn y dalgylch lleol.

- Yn bwysicach fyth, mae siopa lleol yn egwyddorol gywir. Mae pob un geiniog yr ydych yn ei wario yn mynd nôl mewn i’r gymuned ac i bocedi pobl leol. Golygir eich bod yn hybu’r gymuned leol yn ehangach wrth siopa’n lleol. Trwy gydol y mis mi fyddwn yn dangos ffyrdd mae siopa lleol yn helpu'r gymuned.

Felly edrychwch allan am bosteri LLEOL o amgylch y dref, ac ymunwch yn yr ymgyrch a chefnogi siopau lleol mis Mai!

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576