Ail-fyw'r glas

Roedd yr Wythnos Weithgareddau ac Wythnos y Glas yn gyfnod gwallgof, felly dyna pam mai nawr ydw i'n mynd ati i ysgrifennu'r blog hwn, yr addewais ei anfon amser maith yn ôl!

Activitiesjasmineofficerblogwelshwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mi wn i'n iawn.... Ond roedd yr Wythnos Weithgareddau ac Wythnos y Glas yn gyfnod gwallgof, felly dyna pam mai nawr ydw i'n mynd ati i ysgrifennu'r blog hwn, yr addewais ei anfon amser maith yn ôl! Roedd yr wythnosau hynny, heb amheuaeth, y ffordd orau o fynd i'r afael â beth i'w ddisgwyl o'r flwyddyn sydd i ddod. Roedd yr haf wedi bod yn weddol dawel, ond roedd dydd Sul cyntaf yr Wythnos Weithgareddau yn dangos pa mor dawel oedd yr haf mewn gwirionedd, ac roedd mor gyffrous gweld myfyrwyr yn dychwelyd a chael cyfle i gwrdd â rhai o'n myfyrwyr newydd. Cefais fy atgoffa o pan ddês i Aber yn fy mlwyddyn gyntaf, ac roeddwn i'n teimlo'n gyffrous dros y myfyrwyr newydd wrth iddyn nhw ddechrau ar eu cyfnod yn y Brifysgol.

Gwnaed y penderfyniad i ddechrau'r wythnos ar y dydd Sul, er mwyn ei gwneud yn haws i rieni ddanfon myfyrwyr newydd heb orfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith. Roeddem yn meddwl y byddai mwy o bobl yn cyrraedd; daeth tua 50, sy'n weddol dda, ond byddai wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus gyda grwp mwy. Buom yn cwrdd â'r myfyrwyr newydd ar y dydd Sul, ac yn dosbarthu eu crysau-T ar gyfer yr Wythnos Weithgareddau (roedd 10 gwahanol liw er mwy cynnal fersiwn fach o SuperTeams ar y diwrnod olaf). Unwaith bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cyrraedd, wedi casglu eu hallweddi a'u crysau-T, daeth pawb yn ôl i'r UM am fwyd a ffilm. Fel y byddech yn disgwyl, roedd amryw o'r myfyrwyr newydd yn awyddus i ganfod y lle gorau yn y dref i fynd am ddiod ar ôl cael bwyd, felly roedd rhwydd hynt iddyn nhw ddilyn eu trywydd eu hunain. Gan edrych yn ôl ar y noson gyntaf, mae sawl peth y gallem fod wedi'i wneud yn wahanol i sicrhau bod y myfyrwyr newydd yn ymgysylltu cymaint â phosib. Mae wastad yn her pan fo rhaid i bobl deithio drwy'r dydd ac yna dad-bacio eu holl eiddo mewn lleoliad newydd, felly yn y dyfodol, mae'n bosib y byddwn yn newid yr hyn rydyn ni'n ei gynnig ar y noson gyntaf...

Roedd digonedd o ddewis o ran gweithgareddau ar y diwrnod cyntaf, yn y bore a'r pnawn. Mynychodd y niferoedd mwyaf y Ffrisbi Eithaf a'r Hoci Tanddwr, sy'n rhyfeddol, o gofio pa mor arbenigol yw'r clybiau hyn! Daeth mwy o bobl i'r digwyddiad min-nos; o blith myfyrwyr oedd yn dychwelyd fodd bynnag. Roedd torf o bobl yn y Cwtch yn yr UM, felly roedd gan ein myfyrwyr newydd ddigonedd o wahanol grwpiau o bobl i siarad â nhw. Teimlais fod hyn wedi bod yn llwyddiannus - dwi wrth fy modd bod yn rhan o dorf a chwrdd â phobl newydd; serch hynny i rai, roedd y profiad yn un ychydig yn frawychus. Felly mae angen i ni feddwl am ffordd well o'i wneud yn fwy addas ac yn hwyl i amrywiaeth o bobl, heb iddynt deimlo'n anghyfforddus.

Drannoeth y diwrnod cyntaf, daeth llai o bobl i'r sesiynau bore (sydd ddim yn syndod) ond gwellodd y niferoedd ar ôl cinio. Roedd y patrwm gydol yr wythnos rywbeth yn debyg; mwy o bobl yn troi i fyny ar gyfer y sesiynau p'nawn. Darparwyd bwyd ar fin-nos hefyd, felly roedd cyfle i'r myfyrwyr newydd roi cynnig ar rai o'r bwytai lleol, y Llew Du a'r Pier Brasserie, oedd yn ffordd dda o'u cyflwyno i'r ardal leol.

Ar y diwrnod olaf, sef y dydd Iau, roeddem am roi rhagflas i fyfyrwyr newydd o'r hyn sydd gan UMAber i'w gynnig i fyfyrwyr gydol y flwyddyn, felly trefnwyd digwyddiad SuperTeams bach, gan fod y digwyddiad mawr wastad yn gwerthu allan. I gloi'r gweithgareddau, trefnwyd pryd o fwyd olaf yn yr UM. Erbyn hyn, roedd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr newydd wedi gwneud ffrindiau â'r aelodau hyn o glybiau a chymdeithasau, felly roedd cyfle iddynt ymuno â nhw ar gyfer eu nosweithiau cymdeithasol.

Felly dyna grynodeb o fy wythnos gyntaf yng ngofal profiad myfyrwyr. Roedd yn brofiad blinedig, ond o ganlyniad i hynny roedd gen i gymaint o frwdfrydedd ar gyfer y flwyddyn oedd i ddod. Diolch byth am hynny, gan mai dim ond megis dechrau oedd y prysurdeb! Dyma ddechrau'r Penwythnos Croeso, pryd mae holl fyfyrwyr Aber sy'n byw yn llety'r brifysgol yn casglu eu hallweddi, sy'n golygu bod rhaid i bob myfyriwr oedd angen casglu allweddi fod ar y campws ar ryw adeg dros y penwythnos. Felly, roedd angen i ni fel yr UM wneud yn sicr ein bod yn mynegi ein diben, er mwyn i fyfyrwyr wybod ein bod ni yno iddyn nhw! Fel y dydd Sul blaenorol, roedd yn galonogol gweld yr holl fyfyrwyr newydd ar fin dechrau ar eu taith drwy'r Brifysgol.

Roedd Wythnos y Glas ei hun yn orffwyll o brysur yn yr Undeb, ac i bawb yn y Brifysgol yn gyffredinol. Fy mhrif amcan ar gyfer yr wythnos oedd casglu ynghyd aelodau newydd o glybiau a chymdeithasau er mwyn trefnu ein Ffeiriau'r Glas. Eleni, penderfynodd yr Undeb ar y cyd y buasem yn ceisio rhoi cyfle i gymaint â phosib o grwpiau myfyrwyr ar yr un diwrnod, oedd yn golygu cymysgedd o gymdeithasau, clybiau chwaraeon a busnesau lleol. Roedd y cysyniad yn wych, sef ein bod yn gobeithio y gallem gynnwys pawb ar y naill ddiwrnod a'r llall. Nid felly y bu ar y diwrnod. Gosodwyd pobl ar draws y lle, ar sail pryd y bu iddynt gyflwyno eu cais. Yn naturiol, roeddwn i yng ngofal trefnu'r clybiau a chymdeithasau; roedd angen eu gosod o amgylch y stondinau oedd eisoes wedi cael eu pennu ar gyfer busnesau.

Roedd gosod popeth at ei gilydd ar ddiwrnodau'r ffeiriau'n fler, ac roedd anhrefn o ran sicrhau bod pawb yn y man cywir! Er gwaethaf hyn, a'r cannoedd o bobl a ddaeth i ymweld â'r ffeiriau, credaf i bopeth fynd yn dda. Roedd yn uchafbwynt personol gallu mynd o amgylch y stondinau a chyfarfod ag aelodau'r pwyllgorau er mwyn canfod beth oedd ganddyn nhw i gyd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod!

Roeddwn wedi blino'n lân erbyn diwedd yr wythnos, a bu rhaid i mi gymryd diwrnod o seibiant oherwydd fy mod i wedi ymlâdd! Yn ffodus i mi, doedd ail hanner yr wythnos ddim mor heriol â'r hanner cyntaf, a bu modd i'r tîm swyddogion groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams. Cafwyd cyfle i drafod ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn, a chlywed ganddi hi'n son am yr hyn roedd hi am ei wneud dros y system addysg yng Nghymru!

Ymddiheuraf am anfon y blog hwn allan mor hwyr; gyda gobaith, byddaf yn blogio'n fwy cyson yn ystod 2017!

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576