Adeiladu Partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Yn 2014, pasiodd Cyngor UMAber bolisi o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar sail y ffaith nad oedd digon yn cael ei wneud i gynorthwyo myfyrwyr i gael mynediad i wasanaethau iechyd lleol.

naomiofficerblogwelshwelfarewelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Yn 2014, pasiodd Cyngor UMAber bolisi o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar sail y ffaith nad oedd digon yn cael ei wneud i gynorthwyo myfyrwyr i gael mynediad i wasanaethau iechyd lleol. Hyd nawr, doedd dim byd wedi cael ei wneud o ran gweithio mewn partneriaeth â Hywel Dda er mwyn adfer hyder. Eleni, rydw i a Lauren wedi bod yn gweithio'n glòs gydag uwch aelodau o'r bwrdd iechyd er mwyn ceisio gwella'r ffordd mae myfyrwyr yn cael mynediad i wasanaethau iechyd lleol. Rydyn ni'n falch i ddweud, yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor, pasiwyd polisi newydd ar adeiladu partneriaeth bositif â Hywel Dda, a arweiniodd at ddileu'r polisi o ddiffyg hyder.

Digwyddodd yr hyn a ddylanwadodd ar hyder newydd yn Hywel Dda ym mis Chwefror 2017, pan ddaeth y Prif Weithredwr, Steve Moore, ynghyd ag uwch aelodau staff eraill, ar ymweliad ag UMAber er mwyn cynnal fforwm gyda myfyrwyr; lle cafodd myfyrwyr y cyfle i drafod eu profiadau'n agored â'r gwasanaethau iechyd lleol. Mae'r isod yn grynodeb o'r hyn a drafodwyd yn y fforwm hwn.

Yn seiliedig ar y drafodaeth ganlynol, ac yn dilyn amryw o gyfarfodydd cadarnhaol â'r bwrdd iechyd, mae gen i hyder eu bod nhw'n gwneud popeth yn eu pwer i sicrhau bod y galw am wasanaethau'n cael ei ddiwallu, yn arbennig mewn cyfnod mor heriol pan fo adnoddau'n brin. Bydd swyddogion UMAber yn parhau i weithio mewn partneriaeth glòs â'r Bwrdd i sicrhau bod llais myfyrwyr a chynrychiolaeth yn parhau i fod yn rhan o ddatblygiad gwasanaethau tua'r dyfodol.

Fforwm gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Dydd Gwener 17 Chwefror 2017

2-4pm, Picturehouse UM Aber

Cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd yn bresennol:  Steve Moore – Prif Weithredwr (SM); Peter Skitt - Cyfarwyddwr y Sir a Chomisiynydd Ceredigion (PS); Julie Denley - Cyfarwyddwr Dros Dro er Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu (JD); Bleddyn Lewis – Rheolwr Tîm Iechyd Meddwl ar gyfer Ceredigion (BL); Matthew Willis - Pennaeth Datblygu Gwasanaethau ac Integreiddio ar gyfer Ceredigion (MW).

Aelodau staff UMAber / Prifysgol Aber oedd yn bresennol: Naomi Cutler – Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr (NC); Christopher Parry – Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth Undeb y Myfyrwyr (CP); Caryl Davies – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr (CD).

Cwestiynau a thrafodaeth

Jordan Kraus-Harvey (JKH) - Mae rhai myfyrwyr wedi mynegi anfodlonrwydd â'u meddyg teulu, gan deimlo nad yw eu teimladau'n cael eu cymryd o ddifrif, neu fod eu statws fel myfyriwr yn eu dal nhw'n ôl. Beth yw eich meddyliau chi?

Steve Moore (SM) –  Rydyn ni wedi cael trafodaethau â Naomi a Lauren ac rydym yn credu bod holl drigolion Aberystwyth yn gleifion dan Fwrdd Iechyd Hywel Dda (BIHDd). Gallwn drefnu cyfarfodydd gyda Meddygfeydd i fynegi pryderon, serch hynny rhaid i chi ddeall bod gwasanaeth primaidd dan bwysedd, ac rydyn ni'n ceisio cyflogi mwy o feddygon teulu ac ymarferwyr clinigol eraill.

Julie Denley (JD) – Rydyn ni hefyd yn cael trafodaethau gyda meddygon teulu ynglyn â hyfforddiant pellach ac addysg ynglyn ag iechyd meddwl, ac rydym am barhau i weithio gyda'n gilydd ar gyfer Amser i Newid Cymru.

Peter Skitt (PS) – Rydyn ni'n rhoi sylw penodol i wasanaethau meddygon teulu, a'r driniaeth sydd ar gael i unigolion o fewn clystyrau o feddygfeydd.

JKH – Dwi'n Is-lywydd 'Meddyliau Myfyrwyr', lle rydyn ni'n clywed gan amryw o fyfyrwyr sy'n methu cael cymorth gan feddygon teulu na Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol; mae rhai'n cael eu troi i ffwrdd ac yn ceisio cymorth gan gyfoedion yn hytrach.

JD – Mae yna lawer o systemau cymhleth, staff newydd ac amryw o faterion eraill. Rydyn ni wedi bod yn edrych yn rhyngwladol ar arferion gorau, ac rydym yn bwriadu ymgynghori ar fodel newydd ym mis Mai. Byddwn yn awgrymu 4 canolfan iechyd meddwl (bydd 3 ohonynt ar agor 24 awr y dydd) yn y lleoliadau canlynol: Aberystwyth, Sir Benfro, Llanelli a Chaerfyrddin. 

Bydd yna wasanaethau galw-heibio, gyda phob gofal iechyd meddwl mewn un lleoliad, mewn ymdrech i fod mor hygyrch â phosib.

•         Bydd yna welyau

•         Bydd yn lleoliad diogel

•         Byddwn yn gweithio gyda Heddlu Dyfed Powys

•         Bydd yn gweithredu fel adran frys ar gyfer Iechyd Meddwl

Matthew Willis (MW) – Y nod yw gweithredu gwasanaeth hir-dymor a chynaliadwy.

JD – Rydyn ni hefyd wedi ystyried y cyfleusterau teithio sydd ar gael, ac mae gennym amryw o ffyrdd creadigol o'i wneud yn hygyrch i'r rheiny sydd angen teithio yn bellach i gael mynediad i'r gwasanaethau hyn.

Ross Paton (RP) – Mae Clinig Iechyd Rhywiol Aberystwyth wedi troi cymaint â 100 o bobl i ffwrdd, beth sy'n digwydd?

MW – Dydy hyn ddim yn ddigon da. Rydyn ni'n ystyried ei symud yn nes i'r brifysgol, er y bydd rhaid i ni gadw'r gwasanaeth ar agor i bawb (nid dim ond myfyrwyr). Byddem hefyd yn ceisio ymestyn y gwasanaeth i 7 diwrnod, yn hytrach na 3. Rydyn ni wrthi'n gweithio ar gynlluniau, sy'n ddibynnol ar gyllid.

JKH – Fydd mynediad i unrhyw adnoddau Hunan-Ofal?

Bleddyn Lewis (BL) – Bydd ein staff iechyd meddwl yn dechrau gweithio gyda staff eraill o fewn y GIG, o staff y dderbynfa i feddygon teulu er mwyn gwella:

         Ymyriadau / Cyrsiau / Cyngor

         Mynychu digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Aberystwyth, megis Wythnos y Glas

         Creu proses haws ar gyfer cyfeirio pobl

JD - Byddwn yn cynnig mwy o adnoddau o safon uchel ar-lein - byddant yn ddwyieithog ac ar gael i fyfyrwyr, staff ac unrhyw un arall i gyfeirio atynt. Bydd yr adnoddau hyn yn mynd yn fyw yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Naomi Cutler (NC) – Rydyn ni wedi gweld amryw o achosion lle mae'r Ganolfan Lesiant wedi anfon myfyrwyr at eu meddyg teulu, a'r meddygon hynny'n eu hanfon yn ôl i'r Ganolfan Lesiant.

PS – Efallai y gallem gael cyfarfod ar y cyd ynglyn â hyn?

Caryl Davies (CD) – Gall y problemau hyn fod y deillio o drosiant ymysg y staff ac achosion o salwch. Rydyn ni angen fforymau a chyfarfodydd mwy effeithiol.

PS – Oes unrhyw un wedi cael anawsterau deintyddol?

O'r ystafell - Do, mae enghreifftiau'n cynnwys gwrthod cymryd cleifion newydd (preifat neu GIG) a diffyg gwasanaethau brys.

PS – Dwi'n gofyn gan ein bod ni hefyd yn edrych ar faterion deintyddol brys, a bydd hyn yn sicr o fod ar yr agenda ar ran myfyrwyr.

SM – Dylai gwasanaethau brys fod ar gael o fewn 48 awr, felly bydd angen i ni edrych ar hyn.

Michelle Das – Oes gennych chi bolisïau ar Amrywioldeb?

SM – Oes, ac rydyn ni'n weithlu amrywiol iawn - serch hynny, mae yna wastad mwy y gallem fod yn ei wneud!

Chris Parry (CP) – Pa mor ymwybodol / yn rhan o'r Ymgynghoriad ar y Clinig Hunaniaeth Rhywedd ydych chi?

JD – Byddem yn edrych ar:

         Asesiadau Iechyd Meddwl

         Y cynnydd yn y galw a phobl ifanc

         Beth sydd wedi cael ei sefydlu

         Gwaith sy'n mynd rhagddo

Rydyn ni'n gofidio am deithio ac argaeledd, cydbwyso maint y boblogaeth â chostau. Rydyn ni am osgoi teithio ac aros diangen.

RP – Fyddai modd i ni gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl yn Wythnos y Glas a.y.b.?

NC – Mae Meddygfa'r Eglwys a Meddygfa Padarn yn dod i ddigwyddiadau'r Glas i 'recriwtio’.

SM – Rydyn ni'n ystyried galw vs amser ac mae rhaid i ni fod yn ofalus ag adnoddau hefyd. Dwi'n credu y dylen ni fod yn adeiladu gwell perthynas â phobl.

PS - Gallem fod yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer adborth yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer cynrychiolaeth.

JKH – Ydych chi'n ymwybodol o gamgymeriadau'n digwydd a chleifion yn derbyn y presgripsiwn anghywir?

PS – Rydyn ni'n cael dros 6 miliwn o gysylltiadau â chleifion mewn blwyddyn - mae'n anorfod y bydd camgymeriadau'n digwydd. Y peth pwysig yw ein bod ni'n dysgu o'r camgymeriadau hyn - felly gwnewch yn sicr eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw achos o'r fath.

SM – Mae'r fferyllfa'n cyfranogi mwy mewn gofal primaidd hefyd, a byddwn yn parhau i oruchwylio'r sefyllfa.

BL – Oeddech chi'n teimlo eich bod wedi cael gwrandawiad/adborth teg?

JKH – Fuaswn i ddim yn gwybod sut i fynd ati i ddatrys y sefyllfa.

SM – Mae croeso i chi anfon e-bost ataf, a byddwn yn gweithio i ddatrys hyn.

RP – Dylai unrhyw ddull o ddarparu adborth fod yn hawdd ac yn hygyrch.

PS – Nid yw hwn yn fater sy'n effeithio ar fyfyrwyr yn unig, ac rydyn ni angen gweithdrefn sy'n rhedeg yn fwy llyfn. Ar y cyfan, dylem weithio gyda'n gilydd, gan fynd drwy'r system gwynion ac osgoi cyhoeddusrwydd negyddol.

MW – Dylech deimlo fod gennych y pwer i fynd yn ôl at eich meddyg teulu os oes rhywbeth yn mynd o chwith.

SM – Rydyn ni'n croesawu unrhyw adborth ychwanegol.

PS – Rydym hefyd yn gweithio'n glòs gyda'r Tîm Lles.

NC – Pasiodd UM Aber bleidlais o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, ar sail y fforwm hwn a'r cyfarfodydd mae eich swyddogion myfyrwyr wedi bod yn eu cynnal gydag uwch aelodau staff. Ydych chi'n teimlo y gallwn ni ddechrau adfer hyder yn y bwrdd iechyd?

  • Cafwyd ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn hwn.

Comments

 
There are no current news articles.
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576