Mae eich pleidlais yn bwysig, gwnewch yn siwr nad ydych chi'n ei cholli!
Bwriedir cynnal etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddydd Iau 7fed Mai.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn yw ddydd Mawrth 21ain Ebrill 2020.
Swyddog etholedig yw Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) sy'n gyfrifol am gynnal ardal blismona effeithiol ac effeithlon, ac am sicrhau bod yr heddlu lleol yn ateb anghenion y gymuned.
Mae Ceredigion yn rhan o ardal Heddlu Dyfed-Powys, sydd hefyd yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys.
Bwriad yr adran hon o'n gwefan yw darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gofrestru i bleidleisio, ac wrth i rai etholiadau ddod yn nes, unrhyw wybodaeth ychwanegol, fel sut i ddod o hyd i'r orsaf bleidleisio agosaf neu derfynau amser allweddol y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.
Proses ar gyfer gwneud penderfyniadau yw etholiadau, lle caiff y cyhoedd benderfynu pwy fydd yn eu cynrychioli, bydded hynny ar Gyngor y Sir neu’r Dref, yn y Cynulliad Cenedlaethol neu yn Senedd San Steffan. Mae pawb sy'n gymwys - ac wedi cofrestru i bleidleisio - yn cael pleidleisio dros yr ymgeisydd sy'n cynrychioli eu hardal leol, y cyfeirir ati fel etholaeth.
Fel rheol, mae'r ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad yn cynrychioli un o’r pleidiau gwleidyddol, ond gallant hefyd sefyll fel ymgeiswyr annibynnol - gwnewch yn siwr eich bod yn darllen maniffesto pob ymgeisydd.
Beth am fwrw golwg ar ein Mythau Cyffredin sy’n perthyn i Bleidleisio a’n canllaw i Ddatrys Jargon Etholiadau.
Sut ydw i’n mynd ati i bleidleisio?
Y ffordd hawddaf a chyflymaf yw cofrestru i bleidleisio ar-lein drwy ymweld â... gov.uk/cofrestru-i-blridleisio
Sut ydw i'n gwirio a ydw i wedi cofrestru i bleidleisio?
Mae gan bob awdurdod lleol gofrestr etholiadol ar gyfer eu hardal eu hunain. Nid oes rhestr etholiadol ar-lein.
I wirio a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, bydd angen i chi gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol