Y Cyfarfod Mawr

Y Cyfarfod Mawr

 

Beth yw hwn?

Mae Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn ddigwyddiad a gynhelir gan fudiadau bob blwyddyn i sicrhau bod aelodau’n cael cyfle i ddweud eu dweud ynglyn â gweithgareddau, safbwyntiau gwleidyddol a mwy!

Rydyn ni wedi galw ein CCB yn ‘Gyfarfod Mawr’ eleni er mwyn i fyfyrwyr sylweddoli ei bwysigrwydd.

 

Pwy all fynychu?

Mae pob myfyriwr cofrestredig yn aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr a gall fynychu’r cyfarfod, yn ogystal â siarad a phleidleisio. Rhaid cael 100 o aelodau’n bresennol i’r cyfarfod fynd yn ei flaen.

Byddwn yn gwirio eich bod yn aelod wrth i chi gyrraedd, gan ddefnyddio eich CerdynAber i ddilysu eich aelodaeth – felly cofiwch ddod â’ch cerdyn gyda chi fel prawf eich bod yn fyfyriwr!

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i’n holl fyfyrwyr. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â hygyrchedd, neu os ydych chi angen unrhyw ddogfennau sy’n perthyn i’r cyfarfod mewn fformat penodol, yna rhowch wybod i ni!

 

Beth sy’n digwydd yn ystod y cyfarfod?

  • Trafod a phleidleisio ar gyflwyniadau gan fyfyrwyr eraill â’r nod o wella Aber. Cyfeirir at y rhain fel “Syniadau”, ac os yw’r bleidlais yn pasio, maent yn dod yn rhan o’n gwaith am y 3 blynedd nesaf.
  • Derbyn adroddiad llawn ar weithgareddau gan yr Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am lywodraethu’r UM, gan gynnwys cymeradwyo ein cyfrifon a’n hymaelodaethau.

 

Beth sy’n cael ei drafod?

Mae myfyrwyr yn cyflwyno ‘Syniadau’ ymlaen llaw. Syniad yw unrhyw beth a gyflwynir gan fyfyrwyr sy’n gofyn i UMAber wneud y canlynol:

  • Dechrau gweithgaredd newydd
  • Peidio neu newid gweithgaredd cyfredol
  • Mabwysiadu neu newid safbwynt
  • Diweddaru neu newid polisi cyfredol

…a llawer mwy! Gallai Syniad fod yn unrhyw beth, cyn belled â’i fod yn effeithio ar Fyfyrwyr Aberystwyth.

 

Pa iaith gaiff ei siarad?

Yn ystod y cyfarfod, cewch ddewis siarad naill ai Saesneg neu Gymraeg!

Bydd cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn ystod y cyfarfod drwy wasanaeth galwad cynhadledd, felly cofiwch ddod â’ch ffôn gyda chi.

Bydd y gwasanaeth hwn yn defnyddio rhif 03 sydd ddim yn costio mwy na galwad ar y raddfa genedlaethol i unrhyw rif 01 neu 02 number ac mae’n cyfrif tuag at unrhyw funudau cynwysedig.

 

Ble allaf i gael mwy o wybodaeth?

Mae mwy o wybodaeth am gyfarfodydd fel y rhain i’w gweld yn adran Llywio Aber o’r wefan.

Oddi yno gallwch ganfod mwy ynglyn â pha fyfyrwyr sy’n eich cynrychioli chi yng nghyfarfodydd y cyngor, rhannu Syniadau, darllen ein polisïau cyfredol a mwy.

Peidiwch ag anghofio bod ein drysau ni wastad ar agor ac mae croeso i chi anfon neges atom ni – felly peidiwch â bod ofn cysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi angen cymorth!