Moc Lewis
Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA
"Moc yw llais diwylliant Cymreig a myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth."
Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant Cymru gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.
Darllenwch 'blog cyflwyno Moc' yma.
E-bost: cymraegum@aber.ac.uk
Fy Rôl
Bydd y Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn gyfrifol am y canlynol:
- Sicrhau cynrychiolaeth ddigonol o'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr a sicrhau bod y polisi dwyieithrwydd yn cael ei hyrwyddo.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â buddiannau siaradwy y Gymraeg a dysgwyr.
- Cynrychioli anghenion yr aelodau mewn Neuaddau Preswyl cyfrwng Cymraeg.
- Sicrhau bod UMPA yn cael ei gadw'n gyfoes ynghylch materion lleol a chenedlaethol sy'n effeithio ar fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
- Lobïo UCM i ddarparu cynrychiolaeth ddigonol o'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol. h. Cwrdd yn rheolaidd gydag adrannau perthnasol y Brifysgol i hyrwyddo anghenion siaradwyr Cymraeg a'r rheiny sy'n dysgu'r iaith.
Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:
- Cyngor y Brifysgol
- Senedd
- Bwrdd Academaidd
- Pwyllgor Llywodraethiant a Chydymffurfiaeth
- Pwyllgor Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
- Grwp Gweithredol yr Iaith Gymraeg
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Moc yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…
Casglu adborth a gwneud argymhellion ar gynyddu nifer y modiwlau Cymraeg sydd ar gael.
----------
|
 |
Ymestyn mynediad a chymhwyster i gymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gan weithio gyda'r Brifysgol a’r Coleg Cymraeg.
----------
|
 |
Gweithio gyda'r Brifysgol i ddatblygu cymuned Gymraeg weithredol a bywiog yn barod ar gyfer ailagor Pantycelyn yn 2020.
----------
|
 |
Parhau i wreiddio'r Polisi Dwyieithog mewn arferion gwaith a sicrhau bod cefnogaeth ddwyieithog ar gael i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.*
----------
|
 |
Gweithio gydag SubTV i sicrhau bod Cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae yn y bar sy’n cael ei redeg gan y Brifysgol yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr.*
----------
|
 |
Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.

