Nate Pidcock
Llywydd Undeb
"Nate yw llais cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr Aberystwyth."
Eleni, bydd Nate yn canolbwyntio ar wella'r Undeb at y dyfodol a sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed.
Darllenwch 'blog cyflwyno Nate' yma.
E-bost: prdstaff@aber.ac.uk
Fy Rôl
Bydd Llywydd yr Undeb yn gyfrifol am y canlynol:
- Cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac unrhyw is-grwpiau perthnasol lle cyfeirir at hynny.
- Sicrhau bod Tîm y Swyddogion yn adolygu materion allweddol myfyrwyr yn ogystal â materion cynrychioladol a gwleidyddol yn rheolaidd yn unol â'r aelodaeth bresennol
- Sicrhau bod pob myfyriwr yn cael eu cynrychioli ac nad ydynt yn cael eu hallgau rhag UMPA
- Datblygu ac asesu Cynllun Strategol UMPA ar y cyd â'r Prif Weithredwr.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Sicrhau y caiff Aelodau UMPA eu cynrychioli ar lefel genedlaethol drwy gydlynu ymgysylltiad ag UCM ac UCM Cymru.
- Hyrwyddo gwaith ac amcanion UMPA yn gadarnhaol drwy weithredu fel llefarydd yr Undeb wrth ddelio â rhanddeiliaid a'r cyfryngau.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:
- Cyngor y Brifysgol
- Senedd
- Bwrdd Academaidd
- Pwyllgor Buddsoddiadau
- Bwrdd Recriwtio a Marchnata
- Pwyllgor Rheoli Mauritius
- Grwp Dyfarniadau er Anrhydedd
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Nate yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…
Casglu adborth a gwneud argymhellion i'r Brifysgol ar effaith costau llety ar gyllid myfyrwyr.
----------
|
 |
Gwella cyrhaeddiad a chysylltedd Wi-Fi ar y campws.*
----------
|
 |
Lobïo'r Brifysgol i ddadfuddsoddi o Danwyddau Ffosil.*
----------
|
 |
Cefnogi Ymgyrch ‘Dim Slafdai’ People and Planet ac annog y Brifysgol i fod yn rhan o fenter Electronics Watch.
----------
|
 |
Sicrhau bod y Brifysgol yn dryloyw ynghylch y cyflog mae’n ei dalu i’w staff ac unrhyw anghydraddoldebau sy'n deillio o hyn.*
----------
|
 |
Lobïo'r Brifysgol i fuddsoddi mewn ffynonellau ynni mwy adnewyddadwy.*
----------
|
 |
Lobïo'r Brifysgol i ddod yn Gynaliadwy o ran Olew Palmwydd.*
----------
|
 |
Gweithio gyda'r Brifysgol a Chyngor Sir Ceredigion i ddatblygu systemau i wella cofrestru myfyrwyr ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau.*
----------
|
 |
Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.

