Chloe Wilkinson-Silk
Materion Academaidd
"Chloe yw llais myfyrwyr ar gyfer popeth academaidd"
Mae ei rôl hi'n rhoi sylw penodol i hyrwyddo buddiannau academaidd ein myfyrwyr.
Darllenwch 'blog cyflwyno Chloe' yma.
Twitter: @AAAberSU | E-bost: academaiddum@aber.ac.uk
Fy Rôl
Bydd y Swyddog Materion Academaidd yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â materion academaidd, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol ac ôlraddedig, ac ehangu cyfranogiad.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â materion academaidd. Ffurfio sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â materion academaidd.
- Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o gynrychiolwyr academaidd drwy gadeirio'r Parth Academaidd.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu buddiannau academaidd.
Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:
- Senedd y Brifysgol
- Bwrdd Academaidd
- Bwrdd Ymchwil
- Pwyllgor Profiad Myfyrwyr
- Pwyllgor Graddau Ymchwil
- Pwyllgor Dysgu a Wellwyd drwy Dechnoleg
- Bwrdd Darpariaeth Cydweithrediad
- Pwyllgorau Materion Academaidd y Gyfadran
- Gweithgor Llais Myfyrwyr
- Gweithgor Monitro Presenoldeb
- Gweithgor Tiwtoriaid Personol
- Gweithgor Asesu ac Adborth
- Gweithgor Rheoliadau Academaidd Oherwydd Coronavirus
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Chloe yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma…
Cynyddu hygyrchedd y prosesau Amgylchiadau Arbennig ac Estyniadau.
----------
|
 |
Cynyddu hygyrchedd addysgu, dysgu ac asesu, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein.
----------
|
 |
Datblygu cymdeithasau academaidd er mwyn sicrhau bod gan bob myfyriwr fynediad i gymuned academaidd dan arweiniad myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'u cwrs.
----------
|
  |
Sicrhau bod yr addysgu a'r dysgu o safon uchel yn gyson, er gwaethaf y pandemig Covid-19 a bod lliniaru teg a rhesymol ar waith lle bo angen.
----------
|
 |
Lobïo ar bob lefel i'r DU barhau i gynnal mynediad i ERASMUS+ ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar ôl Brexit. *
----------
|
 |
Lobïo’r Brifysgol i alluogi myfyrwyr i olygu a chydamseru eu hamserlen a'u calendr Outlook. *
----------
|
 |
Lobïo'r Brifysgol i ganiatáu i fyfyrwyr ag Amgylchiadau Arbennig ail-sefyll asesiad neu fodiwlau maen nhw wedi’u pasio yr effeithiwyd arnynt gan Covid-19. *
----------
|
 |
Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.