Y Senedd yw'r corff penderfynu uchaf yn UMAber. Bwriad y Senedd yw cynrychioli pob myfyriwr a gosod yr hyn mae UMAber yn credu ynddo ac yn gweithio arno. Mae’r Senedd yn cael ei harwain gan fyfyriwr a gaiff ei ethol yn gadeirydd.
Gall pob myfyriwr gyflwyno syniadau a siarad yn unrhyw Senedd. Os bydd syniad yn cael ei basio drwy'r Senedd, daw’n Bolisi’r Undeb am dair blynedd a bydd yn rhan o'n weithgareddau.
Gallwch weld y dyddiadau a’r papurau ar gyfer cyfarfodydd sydd i’w cynnal, yn ogystal â’r cofnodion ar gyfer cyfarfodydd blaenorol isod.
Mae Cadeirydd yr Undeb yn arwain pob dadl yn ystod Senedd yr Undeb, gan sicrhau bod cyfarfodydd y Senedd cadw at y terfynau amser gofynnol a bod unrhyw drafodaethau'n cadw at y testun.
Mae Senedd yr Undeb yn cynrychioli llais myfyrwyr Aberystwyth drwy osod polisi'r Undeb a gwneud, diddymu a gwella is-ddeddfau UMAber gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr UMAber.
Mae aelodau'r Senedd yn cynnwys:
- 5 swyddogion llawn amser
- 11 swyddogion gwirfoddol
- 6 swyddogion cyfadran
- 2 aelod o bwyllgor gwaith UMCA
- 5 cynrychiolydd o glybiau chwaraeon
- 5 cynrychiolydd o'r cymdeithasau
Er mwyn trosglwyddo syniadau trwy'r Senedd, rhaid i'r holl gyfarfodydd gyrraedd cworwm 50% +1 o'r holl aelodau sydd â phleidlais.
Syniad yw ffordd y gallwch chi gyflwyno yr hyn rydych chi'n meddwl y dylai UMAber ei gredu neu weithio arno. Ar ôl ei gyflwyno, mae'n bosib y bydd gofyn i chi ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Senedd ac os caiff ei basio (oni fydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn dweud fel arall) daw’n bolisi a rhaid i'r Undeb ei ddilyn am y tair blynedd nesaf. Ar ôl eu derbyn, cyhoeddir Syniadau ar gyfer y Senedd i'r holl fyfyrwyr i ddarllen ac awgrymu gwelliannau.
Cewch gyflwyno syniad gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.