Myfyrwyr yw Cynrychiolwyr Academaidd sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr ar eu cwrs neu yn eu hadran i ddarparu adborth ar farn y rheiny maen nhw'n eu cynrychioli i'w Hadran, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
Maen nhw'n gweithio gyda'u Cynrychiolydd Cyfadran a'r Swyddog Materion Academaidd i gynrychioli myfyrwyr drwy fynychu Pwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr er mwyn cyflwyno adborth gan fyfyrwyr ac ymateb iddo.
Pam dylwn i fod yn Gynrychiolydd Cwrs?
Credwn fod llais myfyrwyr yn hollbwysig, ac rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod barn, anghenion a phryderon myfyrwyr yn llywio eich Adran, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Drwy fod yn Gynrychiolydd Academaidd, byddwch wedi cael eich ethol gan gyd-fyfyrwyr, ac felly pwy well i gynrychioli eu barn?
Byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes ac yn meithrin rhai newydd, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd ac yn ymuno â rhwydwaith o fyfyrwyr sydd o'r un anian â chi, sef pobl sy'n ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr.
Ynghyd â derbyn tystysgrif a chael eich rôl wedi'i chydnabod ar eich Cofnod o Gyrhaeddiad (HEAR), cewch gyfle i gael eich enwebu ar gyfer 'Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn' yng Ngwobrau'r Undeb.
Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?
Estynnir gwahoddiad i bob Cynrychiolydd Academaidd fynychu sesiwn hyfforddi gynted y byddant wedi cael eu hethol i'r rôl. Eleni, byddwn yn ail-enwi ein hyfforddiant yn hyfforddiant i ddechreuwyr a dychwelwyr, gan ddibynnu a ydych wedi bod yn Gynrychiolydd Academaidd o'r blaen.
Yn ogystal â hyfforddiant, byddwch yn derbyn cylchlythyr o leiaf unwaith y mis gyda'r wybodaeth ddiweddaraf a chyfleoedd sy'n berthnasol i'ch rôl – bydd hyn yn cynnwys y cyfle i fynychu cynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn cwrdd â chynrychiolwyr o sefydliadau eraill.
Mae'r Swyddog Materion Academaidd a'r Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd hefyd wrth law gydol y flwyddyn i drefnu cyfarfodydd rheolaidd, cyfleoedd ychwanegol am hyfforddiant ac i ddarparu cymorth parhaus os bydd ei angen.