Beth yw Cynrychiolwyr Cyfadrannau?
Cynrychiolwyr Cyfadrannau yw myfyrwyr sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr o fewn eu Cyfadrannau i ddarparu adborth ar farn y rheiny maen nhw'n eu cynrychioli i'w Gyfadran, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
Maen nhw'n gweithio gyda'r Swyddog Materion Academaidd i gynrychioli myfyrwyr drwy eistedd gyda nhw ar wahanol bwyllgorau a mynychu'r Parth Academaidd. Maen nhw'n cwrdd yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Academaidd a rheolaeth ei Gyfadran er mwyn cyflwyno adborth gan fyfyrwyr ac ymateb iddo.
Pwy yw fy Nghynrychiolydd Cyfadran?
Mae'r Cynrychiolwyr Cyfadran cyfredol wedi'u rhestru isod.
Cyfadran
|
Enw
|
E-bost
|
Cyfadran Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol
|
Roisin Donnelly
|
rod31@aber.ac.uk
|
Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd
|
Joao Louro
Chloe Wilkinson-Silk
|
jol55@aber.ac.uk
chw64@aber.ac.uk
|
Cyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol
|
Troy Wenham
Dhanjeet Ramnastsing
|
trw8@aber.ac.uk
dhr5@aber.ac.uk
|
Pam dylwn i mi fod yn Gynrychiolydd Cyfadran?
Credwn fod llais myfyrwyr yn bwysig, ac rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod barn, anghenion a phryderon myfyrwyr yn llywio eich Adran, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Drwy fod yn Gynrychiolydd Cyfadran, byddwch wedi cael eich ethol gan gyd-fyfyrwyr, ac felly pwy well i gynrychioli eu barn?
Byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd gennych ac yn meithrin rhai newydd, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd ac yn ymuno â rhwydwaith o fyfyrwyr sydd o'r un anian â chi, sef pobl sy'n ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr.
Ynghyd â derbyn tystysgrif a chael eich rôl wedi'i chydnabod ar eich Cofnod o Gyrhaeddiad (HEAR), bydd gennych y cyfle i gael eich enwebu ar gyfer gwobr yn ein gwobrau diwedd y flwyddyn.
Sut mae modd i mi fod yn Gynrychiolydd Cyfadran?
Cynhelir etholiadau yn Chwefror a Mawrth bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf; cynhelir y rhain yr un adeg â'r etholiadau ar gyfer ein Gwirfoddolwyr a'n Swyddogion Llawn-amser.
Os oes swyddi gwag, cynhelir is-etholiad tua dechrau'r flwyddyn academaidd newydd (Hydref neu Dachwedd fel arfer) i lenwi'r rhain. Os ydych chi am gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio, e-bostiwch undeb.etholiadau@aber.ac.uk.
Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?
Estynnir gwahoddiad i bob Cynrychiolydd Cyfadran fynychu hyfforddiant ynghyd â Swyddogion Gwirfoddol eraill cyn dechrau'r tymor cyntaf ym mis Medi. Gofynnir i'r rheiny sy'n methu mynychu'r hyfforddiant hwn, neu os ydyn nhw wedi cael eu hethol yn ddiweddarach, i fynychu sesiwn a drefnir yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Yn ogystal â hyfforddiant, byddwch yn derbyn cymorth gan y Swyddog Materion Academaidd a'r Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd; byddwch yn cwrdd â nhw'n fisol yn ystod y tymor i drafod adborth, gwrando ar unrhyw bryderon a darparu cymorth pan fyddwch ei angen.
Yn yr un modd â Chynrychiolwyr Academaidd, mae'n bosib y cewch chi gyfle i fynychu cynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol i gwrdd â chynrychiolwyr o gyfadrannau eraill.