Pethau i’w gwneud cyn cyrraedd Aberystwyth
Cyn i chi ddod i Aber, mae ambell beth y buasem yn argymell cael gafael arnyn nhw, fel gallwch ddechrau ar fywyd myfyrwyr yn gwbl ddi-ffwdan...

Hoffwch neu dilynwch @UMAberSU ar eich hoff sianel cyfryngau cymdeithasol
Facebook, Twitter ac Instagram
.png)
Ymunwch ag unig grwp glasfyfyrwyr swyddogol Aberystwyth ar Facebook
https://www.facebook.com/groups/heloaber2021
Gweithredwch eich cyfrif e-bost prifysgol.
Dylech dderbyn e-bost gan y brifysgol gyda chyfarwyddiadau. Bydd angen y manylion mewngofnodi hyn arnoch i fewngofnodi i wefan UMAber er mwyn ymuno â chlybiau chwaraeon neu gymdeithasau.
Ymunwch â rhestr ohebiaeth clwb chwaraeon neu gymdeithas
fel eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill.
Prynwch eich cerdyn TOTUM NUS
i wneud y mwyaf o ddisgowntiau myfyrwyr ar unrhyw beth y mae angen i chi ei brynu cyn i chi ddod i Aber.
Sut i Ymuno â chlwb a / neu gymdeithas - Os ydych chi eisoes yn gwybod eich bod chi am ymuno â chlybiau a chymdeithasau penodol? Gallwch wneud hynny ar-lein cyn i chi hyd yn oed gyrraedd, (ar werth o 1af Medi) - ond does dim brys i wneud hyn; gallwch ymuno ag unrhyw glwb neu gymdeithas gydol y flwyddyn, does dim ots gennym ni.
Gwiriwch ein cerdyn bws myfyriwr - Os ydych chi'n mynd i fod yn byw yn y dref (neu ddim yn hoffi elltydd) gwiriwch ein cynnig cerdyn bws i arbed ££oedd ar deithio ar fws yn ardal Aberystwyth. Rydyn ni wedi ymuno â chwmni bws lleol, Mid Wales Travel, i gynnig y fargen orau i chi ar gyfer teithio o amgylch Aberystwyth.

Mwynhewch y profiad!!