Un o'r heriau mwyaf y mae pob glasfyfyriwr yn ei hwynebu yw cadw at gyllideb.
Dyna pam mae'n bwysig manteisio ar yr holl gynigion gwych sydd ar gael!
Cadwch lygad ar y dudalen hon am gynigion lleol a chenedlaethol i'ch helpu chi i wneud arbedion wrth i chi wario.
*Peidiwch ag anghofio y gallwch hefyd arbed ££oedd gyda cherdyn disgownt myfyrwyr TOTUM.
Diva Nail
Gostyngiad o 10% i fyfyrwyr gydol y flwyddyn.
Yn arbenigo mewn: estyniadau Acrylic, shellac, manicure, pedicure a chelf ewinedd.... a Mwy
Tudalen Facebook ac Instagram: Diva nail design Aberystwyth
Cyfeiriad: 1 Heol Alexandra, Aberystwyth, SY23 1LE
Ffôn: 01970 624966
SINEMA’R COMMODORE
POPGORN AM DDIM! Cewch becyn bach o bopgorn am ddim gyda phob tocyn sy’n cael ei brynu yn ystod Medi a Hydref pan fyddwch yn dangos cerdyn NUS / TOTUM.
DISGOWNT DYDD LLUN! Tocynnau’n £5.00 bob dydd Llun.
Cewch fwynhau’r profiad o fynd i’r sinema gydag un o sgriniau mwyaf Cymru, system sain Dolby 7.1, bar trwyddedig gyda phrisiau tafarn a digonedd o le i eistedd gan alluogi cynnal pellter cymdeithasol.
www.commodorecinema.com

HOME Caffi a Bwyty
Disgownt o 10% os ydych chi’n dangos cerdyn TOTUM / NUS.
Hefyd bwffê cymaint ag y gallwch chi ei fwyta am £5.00 bob dydd
Ffôn: 01970 627 211
Tudalen Facebook

Treehouse
Siop fwyd organig a lleol yn Aberystwyth
10% o ddisgownt i fyfyrwyr
Rydyn ni’n danfon at eich drws
www.tcth.co.uk
