'Defnyddio'ch Gwerthoedd i gynorthwyo Llesiant Cadarnhaol a Gosod Nodau' Gweithdy gan Paula Dixon a Marjorie Raymond
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***
Yn seiliedig ar seicoleg gadarnhaol, mae'r gweithdy ymarferol hwn yn plymio'n ddwfn i sut y gellir defnyddio gwerthoedd personol i gynorthwyo llesiant.
Trwy fod yn glir ynghylch yr hyn sy'n bwysig, mae gwerthoedd yn darparu cyfeiriad ystyrlon ar lefel sy'n bersonol arwyddocaol. Mae ymddwyn mewn ffordd sy'n eu hadlewyrchu hefyd yn gadarnhaol ac yn ysgogol, gan ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n ystyrlon i ni. Mae ymchwil yn ategu'r canlyniad hwn; trwy ddiffinio ein gwerthoedd, rydym yn gallu nodi'r math o ymddygiadau sy'n eu cynnal a gweithredu arnynt. Yn dilyn hyn, gallwn wedyn ddefnyddio ein gwerthoedd i osod nodau tymor byr, tymor canolig a hir-dymor ystyrlon a dod â nhw'n fyw. Mae eu gwireddu yn y modd ymarferol hwn yn cynorthwyo llesiant seicolegol a gweithredu ymarferol ymhellach.
Trwy archwilio gwerthoedd personol yn y sesiwn hon a gosod rhai gweithredoedd yn seiliedig ar nodau, bydd mynychwyr yn elwa o gynnydd mewn eglurder ynghylch yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw a ffordd ymarferol o ddangos eu gwerthoedd er mwyn cynorthwyo eu llesiant yn y brifysgol a thu hwnt.
Ymunwch yma:? https://us02web.zoom.us/j/88501801837
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***