'Cyflwyno'ch Hun yn yr Eiliadau sy'n Bwysig.' Gweithdy gan John Scarrott
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***
Bydd eich llwyddiant mewn bywyd yn dibynnu i raddau sylweddol, ar ba mor dda y byddwch yn dod ar draws i eraill. P'un a yw'n gyfweliad, cyfarfod, cyflwyniad, cyfle i siarad, neu rywbeth arall, dyma'ch cyfle i fynegi eich hun, i ddweud “dyma fi, dyma’r hyn sydd gen i i’w gynnig.” Pan fydd cyfathrebu'n wirioneddol bwysig, sut ydych chi'n gwneud i'ch cyfathrebu chi gyfrif? Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i PYPH, fframwaith y gallwch adeiladu eich llwyddiant arno.
Mae mwy i PYPH na dim ond set o awgrymiadau defnyddiol. O'u defnyddio yn eu trefn, mae PYPH yn gweithio i'ch galluogi i greu'r hyder sydd ei angen arnoch i berfformio hyd eithaf eich gallu ym mhob sefyllfa lle mae'r ffordd rydych chi'n cyfathrebu’r un mor bwysig â'r hyn rydych chi'n ei ddweud.
Yn y sesiwn 30 munud hon byddwch yn dysgu am:
- PYPH: beth ydy hyn a sut mae’n gweithio
- Sut i wneud i PYPH weithio i chi
- Sut mae PYPH yn gweithio yn ei gyd-destun
Byddwch chi'n gadael gyda'r hanfodion i wneud i PYPH weithio i chi.
Ar ôl y sesiwn bydd 15 munud ar gyfer cwestiynau.
Ymunwch â’r Cyfarfod Zoom: https://us02web.zoom.us/j/83580690644
Cofrestrwch nawr ac ewch ati i weithredu:
- Anfonwch eich cwestiynau ataf ymlaen llaw: jdscarrott@googlemail.com
- Cysylltwch â mi ar LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/johndscarrott/
Agenda
Cyflwyno PYPH
- Paratoi: sicrhau eich bod yn barod ar gyfer llwyddiant
- Ymarfer: ewch ati o ddifrif wrth fynd dros yr hyn sydd gennych chi i’w ddweud
- Perfformiad: cyflawni yn y foment
- Hyder Personol: ewch â’r pwer ymlaen i'ch profiad nesaf
Rhoi PYPH ar waith
- Cyfweliad Un-i-Un
- Cyflwyniad i Grwp Bach
- Cyfle i Siarad
- Gwneud i'r cyfan weithio dros Fideo (e.e. Zoom)
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Ymunwch a chewch gyfle i Ennill: Mynychwch y Gweithdy hwn, a bydd cyfle i chi ennill un o ddwy Raglen Hyfforddi Bersonol.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mae mynychu'r sesiwn gweithdy 30 munud hon yn ffordd wych o ddechrau dysgu am yr hyn sydd ei angen arnoch chi i fod yn gyfathrebwr gwych. Sut hoffech chi gael y cyfle i barhau â'ch gwaith, gyda rhaglen hyfforddi bersonol un-i-un?
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn rhoi cyfle i bawb sy'n mynychu'r gweithdy hwn i ennill y wobr hon.
Bydd pob person sy'n mynychu yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill un o ddwy Raglen Hyfforddi Bersonol fer. Bydd pob rhaglen yn cynnwys tair sesiwn 1 awr, ynghyd â galwad sefydlu a chwblhau 30 munud, a byddant yn cael eu cynnal yn gyfangwbl dros fideo. Yr enillwyr fydd yn cael dewis y thema. Bydd y Llywydd yn tynnu’r raffl ar ôl y gweithdy a bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu trwy e-bost.
***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***