Refreshers: Cyfleoedd Gwirfoddoli gyda Amy
Wythnos Refreshers 2021
Er na allwn gynnal Wythnos Refreshers yn ei ffurf draddodiadol eleni ... rydym yn dal i allu cynnal wythnos rithwir i ailgyflwyno ein clybiau chwaraeon, ein cymdeithasau a'n cyfleoedd gwirfoddoli anhygoel - gydag ychydig o gynigion a gostyngiadau arbennig i fyfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y fargen.
Ymunwch a Amy - ein Cydlynydd Academaidd a Gwirfoddoli er mwyn clywed am bopeth i wneud a Gwirfoddoli!
Os ydych chi'n bwriadu gwirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth,
rydych chi wedi dod i'r lle iawn! P'un a ydych chi am wirfoddoli'n rheolaidd yn y gymuned, cynnal diwrnod o weithredu neu ymuno â phrosiect dan arweiniad myfyrwyr; mae digon o gyfleoedd i chi wirfoddoli! Mae myfyrwyr sy’n gwirfoddoli’n gwneud gwir wahaniaeth, ac mae’n anodd curo’r ymdeimlad cynnes o foddhad a ddaw wrth wybod eich bod chi wedi helpu rhywun neu rywbeth!
Cliciwch yma i ymuno: https://us02web.zoom.us/j/83045673858