Wythnos Refreshers
Yma yn UMAber rydym am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr; a chredwn mai un o'r ffyrdd o wneud hyn yw trwy ymuno â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau, er mwyn helpu i ddod o hyd i'ch cymuned yn Aber.
Er na allwn gynnal Wythnos Refreshers yn ei ffurf draddodiadol eleni ... rydym yn dal i allu cynnal wythnos rithwir i ailgyflwyno ein clybiau chwaraeon, ein cymdeithasau a'n cyfleoedd gwirfoddoli anhygoel - gydag ychydig o gynigion a gostyngiadau arbennig i fyfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y fargen.
Nid ar gyfer myfyrwyr newydd yn unig y mae Wythnos Refreshers - mae'n gyfle i siarad â dros 150 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau, darganfod mwy am nifer o gyfleoedd gwirfoddoli a'r hyn sydd gan yr UM ac Aberystwyth i'w gynnig i unrhyw fyfyriwr.
Dyma ychydig o'r digwyddiadau / gweithgareddau rydyn ni wedi'u trefnu:
Dydd Llun 22ain : Cyfleoedd Gwirfoddoli gydag Amy (1pm - 3pm)
Dydd Mawrth 23ain : Cyfarfod â Chlybiau Chwaraeon a Chymdeithasau (1pm - 4pm)
Dydd Mercher 24ain : Cyfarfod â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau (1pm - 4pm)
Dydd Iau 25ain : Cyfarfod â Chlybiau Chwaraeon a Chymdeithasau (1pm - 4pm)
Dydd Gwener 26ain Dydd Sul 28ain : Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi draw ar ein straeon Insta.
Blogiau dyddiol:
Mae ein swyddogion a'n staff hefyd wedi paratoi blogiau dyddiol ar bopeth sy’n ymwneud ag Aber, i’w rhyddhau ar adran newyddion ein gwefan bob dydd; gan rannu ein profiadau o astudio yn Aber, gweithio yn yr Undeb a byw yn Aberystwyth a'r cyffiniau.
Cynigion i Fyfyrwyr
Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â nifer o fusnesau lleol yn Aberystwyth i ddod â bargeinion a chynigion Wythnos Refreshers i chi.
Edrychwch ar y dudalen hon am gynigion (gyda rhai yn gyfyngedig i'r wythnos hon yn unig):
Raffl Wythnos Refreshers:
Am yr wythnos hon yn unig ... Bydd unrhyw un sy'n ymuno â chlwb neu gymdeithas rhwng yr 22ain a’r 26ain Chwefror 2021 yn cael ei gynnwys mewn raffl am gyfle i ennill un o bedwar taleb Amazon gwerth £25.
Gyda digwyddiad eleni yn un rhithwir; mae mwy fyth o reswm dros gymryd rhan, ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd i wneud ein profiad prifysgol y gorau y gall fod yn 2021.