Astrid Investigates - A Flying Bridge Theatre audio drama

Yn gyfuniad o Bond a Marple, gyda mymryn o Poirot a Spade ar ei ben, mae'r Ditectif Preifat Astrid Price ar ymgyrch i ddal ei gelynion o'i fflat ar ben y siop sglods yng Nghasnewydd.
 
Gan lercian ar hyd strydoedd mileinig Gweriniaeth Annibynnol Cymru yn y dyfodol gweddol agos, mae celfyddyd ysbïwriaeth rhwng yr Hen Loegr a'r Weriniaeth Annibynnol newydd yn fyw ac yn feiddgar – mae cyn-gapten rygbi Cymru'n barod i daclo pob dirgelwch a ddaw i'w rhan, a does neb yn fwy sicr o dywys pob drwgweithredwr i'r llys.
 
Ond a all hi ddod o hyd i Goron Brenin Arthur er mwyn atal rhyfel diplomyddol enfawr? A yw Mona Gladys, y seren Hollywood o Gymru, wir mor annwyl ag yr ydyn ni'n meddwl? A fydd cynhyrchiad Cwmni Theatr y Bradwyr yn gorffen yn fêl i gyd, neu a yw celfyddyd yn dynwared bywyd? A beth ddigwyddodd i gath Stella?
 
Bydd y gyfres yma i'r llais yn cael ei ffrydio ar-lein yn wythnosol gan Gwmni Sefydlog Ar-lein Flying Bridge, a bydd yn cael ei pherfformio o bell gan gwmni o actorion ledled Cymru. Bydd Anturiaethau Astrid yn cynnwys 7 drama, yn dechrau gyda King Arthur's Crown ddydd Iau 17 Medi, ac yn cloi gyda The Last Pint ddydd Iau 29 Hydref.

Mwy i ddod

Wythnos RAG
22nd-26th Ebrill
short desc?
Diwylliant Cymreig Fforwm
22nd Ebrill
Pantycelyn Lolfa Fach
Sêl Cilo Dillad Vintage
23rd Ebrill
Prif Ystafell UM
Dewch i gael eich swyno gan y blynyddoedd cynt wrth i chi chwilota trwy ddetholiad o hen ddillad o ansawdd, a gaiff ei brisio gan ei bwys.
Academaidd Fforwm
23rd Ebrill
UM Picturehouse
Llesiant Fforwm
24th Ebrill
UM Picturehouse
Clybiau a Chymdeithasau Fforwm
25th-25th Ebrill
UM Picturehouse
Y Senedd
29th Ebrill
Picturehouse yr UM
Gofyn i fi: Hyfforddiant
11th Mai
Pantycelyn: Lolfa Fach

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576