Astrid Investigates - A Flying Bridge Theatre audio drama

Yn gyfuniad o Bond a Marple, gyda mymryn o Poirot a Spade ar ei ben, mae'r Ditectif Preifat Astrid Price ar ymgyrch i ddal ei gelynion o'i fflat ar ben y siop sglods yng Nghasnewydd.
 
Gan lercian ar hyd strydoedd mileinig Gweriniaeth Annibynnol Cymru yn y dyfodol gweddol agos, mae celfyddyd ysbïwriaeth rhwng yr Hen Loegr a'r Weriniaeth Annibynnol newydd yn fyw ac yn feiddgar – mae cyn-gapten rygbi Cymru'n barod i daclo pob dirgelwch a ddaw i'w rhan, a does neb yn fwy sicr o dywys pob drwgweithredwr i'r llys.
 
Ond a all hi ddod o hyd i Goron Brenin Arthur er mwyn atal rhyfel diplomyddol enfawr? A yw Mona Gladys, y seren Hollywood o Gymru, wir mor annwyl ag yr ydyn ni'n meddwl? A fydd cynhyrchiad Cwmni Theatr y Bradwyr yn gorffen yn fêl i gyd, neu a yw celfyddyd yn dynwared bywyd? A beth ddigwyddodd i gath Stella?
 
Bydd y gyfres yma i'r llais yn cael ei ffrydio ar-lein yn wythnosol gan Gwmni Sefydlog Ar-lein Flying Bridge, a bydd yn cael ei pherfformio o bell gan gwmni o actorion ledled Cymru. Bydd Anturiaethau Astrid yn cynnwys 7 drama, yn dechrau gyda King Arthur's Crown ddydd Iau 17 Medi, ac yn cloi gyda The Last Pint ddydd Iau 29 Hydref.

Mwy i ddod

Y Cwis Mawr
18th Medi
Arlein
Digwyddiad Gwi Jones
19th Medi
www.aberfreshers.co.uk
Canwr lleol
Digwyddiad Laszlo Xavia
19th Medi
i'w gadarnhau
Canwr gyfansoddwr lleol
Big Joe ac El Boi
19th Medi
www.aberfreshers.co.uk/
DJs a mwy!
Digwyddiad Dylan Ebenzer
20th Medi
www.aberfreshers.co.uk
TV presenter
Digwyddiad Hollow Log
20th Medi
www.aberfreshers.co.uk
Acoustic blues band
Ioga
21st Medi
Ar-lein - Zoom
Ymunwch â'r Gymdeithas Ioga ar gyfer un o'i sesiynau!
Cystadleuaeth - Ysgrifennwch eich drama eich hun!
21st-28th Medi
Ar-lein
Mae'r Nomadic Players yn cynnal cystadleuaeth ysgrifennu drama.
Cystadleuaeth / Competition - Fantasy and Sci-fi Art Competition
21st Medi - 1st Hydref
Ar-lein
Mae ein Cymdeithas Ffantasi a Ffuglen Wyddonol yn gosod her i chi...
Introduction to British Sign Language CY
21st Medi
Ar-lein - Zoom
Ymunwch ag AberBSL am gyflwyniad i'r pethau sylfaenol.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576