Cawcws Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM Cymru
Bob blwyddyn mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn anfon cynrychiolwyr, ynghyd â chynrychiolwyr o golegau a phrifysgolion eraill ledled Cymru, i Gynhadledd Genedlaethol lle maen nhw'n gosod cyfeiriad UCM Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Eleni bydd Cynhadledd UCM Cymru yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y 26ain a’r 27ain Chwefror. Yn y Gynhadledd, bydd myfyrwyr yn trafod y materion sy'n eu hwynebu, yn dadlau ynghylch y safbwyntiau maent am eu cymryd ar y materion hyn, yn pleidleisio ar bolisi, ac yn ethol Llywydd nesaf UCM Cymru.
Fel rhan o hyn byddwn yn cynnal cawcws, lle byddwn yn ethol 3 chynrychiolydd yn ychwanegol at yr un a etholwyd eisoes ym mis Hydref fel rhan o is-etholiadau’r hydref.
Gall unrhyw fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth ddod draw i sefyll neu bleidleisio. Pan fydd cystadleuaeth am y rolau hyn, bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i roi araith, ac yna cynhelir pleidlais.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch undeb.etholiadau@aber.ac.uk.