Bws Gwennol i’r Orsaf Bleidleisio AM DDIM
Rydym wedi trefnu bws gwennol am ddim i'ch cludo o’ch llety i'r orsaf bleidleisio ac yn ôl ar ddiwrnod yr etholiad.
Cofiwch fod yn rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio!
Gorsafoedd Pleidleisio Aberystwyth
Mae yna nifer o orsafoedd pleidleisio ledled Aberystwyth; os ydych chi'n ansicr pa un y mae angen i chi bleidleisio ynddi, gwiriwch ar eich cerdyn pleidleisio neu cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion ar 01545 572032.
Mae rhestr isod o'r gorsafoedd pleidleisio agosaf at y myfyrwyr hynny sy'n byw yn Llety’r Brifysgol neu yn y Dref.
Neuadd Gymunedol Waunfawr, SY23 3PN
Neuadd Eglwys Llanbadarn Fawr, SY23 3QZ
Neuadd Buarth / Ffordd Stanley, SY23 1LP
Canolfan Fethodistaidd St Paul, Ffordd y Frenhines, SY23 2NN
Byddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Alecsandra, SY23 1LE