Adborth Strategaeth Llesiant
Mae Undeb y Myfyrwyr ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr i ddatblygu Strategaeth Llesiant Myfyrwyr newydd.
Fel rhan o'r gwaith hwn rydym yn trefnu nifer o sesiynau galw heibio i fyfyrwyr rannu eu syniadau ar yr hyn y dylai'r strategaeth ei gynnwys.
Mae'r sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal ar:
Dydd Llun 9fed Rhagfyr
12:00pm-1:00pm
1:00pm-2:00pm
2:00pm-3:00pm
Ni fydd y sesiwn yn para mwy nag awr.
Os na allwch fod yn bresennol, ond yr hoffech gyfrannu, mae croeso i chi anfon eich syniadau drwy e-bostio umllesiant@aber.ac.uk.