Cyfle i’r Glasfyfyrwyr Alw Heibio’r Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr
Mae’r Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr wedi ymestyn eu gwasanaeth i gynnig rhai sesiynau 'Galw Heibio' 1-i-1 ar draws gwahanol leoliadau ar y campws gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr yn ystod wythnos y Glas.
Mae'r Gwasanaeth Llesiant Myfyrwyr yn deall sut y gall y dyddiau cyntaf yn y Brifysgol ymddangos yn llethol ar brydiau. Mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn teimlo'n hiraethus iawn am gartref, yn pryderu am fywyd prifysgol a/neu'n poeni am sut i gael gafael ar opsiynau cymorth os oes angen.
Bydd ymarferydd cymwys yn gallu cynnig sgwrs fer 10 munud, bydd yn barod i wrando ar eich pryderon a'ch gofidiau, yn ogystal â'ch cynghori am y gefnogaeth fwyaf priodol i helpu ateb eich anghenion.