Ffair Swyddi Rhan Amser a Gwirfoddoli
Fel rhan o’n digwyddiad yn ystod Wythnos y Glas, byddwn ni’n cynnal Ffair Swyddi Rhan Amser a Gwirfoddoli ddydd Mercher 26 Medi rhwng 11am a 3pm ym Mhrif Ystafell yr Undeb. Os ydych chi am wirfoddoli yn y gymuned neu gael gwaith rhan amser yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, dyma gyfle gwych i siarad â mudiadau lleol a’r cyfan dan un to!