OPERAUPCLOSE | OPERA COCKTAIL!
Mae OperaUpClose yn cyflwyno rhai o ariâu, deuawdau ac ensembles mwyaf poblogaidd y byd opera mewn ffordd hwyliog, modern yn Opera Cocktail. Yn cael ei pherfformio mewn cyfieithiadau Saesneg newydd ffraeth a’i hactio’n wych mewn steil difyr, deniadol y cwmni, mae’r sioe yn cynnwys unawd Musetta o La Bohe`me, Habanera deimladwy Carmen, a’r gân yfed o La Traviata.
Cwmni opera arobryn yw OperaUpClose sy’n cynhyrchu fersiynau siambr Saesneg newydd, agos-atoch, fforddiadwy ac - yn bwysicaf oll - o safon uchel iawn, o weithiau adnabyddus ac operâu newydd sy’n cael eu perfformio am y tro cyntaf.
Am fwy gwybodaeth, ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/classical-music/operaupclose-opera-cocktail