Roll for Remission!
Cwmni: Cwmni Ennyn a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Yn addas i oedran 12+
Y mae grwp o bobl ifanc yn casglu mewn ysbyty ar gyfer diwrnod o nodwyddau, procio, pils a gwenwyn, ac ystadegau a lwc sy’n penderfynu eu tynged. Y mae grwp o anturiaethwyr ifanc yn cwrdd er mwyn dechrau taith ar draws gwlad ddieithr, a rholyn o ddis sy’n penderfynu eu tynged. Dyma stori am ddewrder a chyfeillgarwch mewn dau fyd, lle mae brwydro dreigiau yn teimlo’n haws na brwydro cancr.
Am fwy gwybodaeth, ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/theatre/roll-remission-0