Everybodys Talking About Jamie (12a)
Yn cael ei darlledu’n fyw o’r Apollo Theatre yn Shaftesbury Avenue, Llundain, dyma’r sioe gerdd arobryn bum-seren newydd sbon sydd wedi cael derbyniad hynod brwd.
Yn seiliedig ar stori wir, dyma hanes Jamie sy’n byw ar stad o dai cyngor yn Sheffield. Mae ef ychydig yn wahanol ac yn poeni’n arw am y dyfodol.
Gyda chefnogaeth ei fam serchog a’i lu o ffrindiau, mae Jamie yn goresgyn rhagfarn, yn curo’r bwlis ac yn camu allan o’r tywyllwch i mewn i’r goleuni.
I fwcio tocynnau, ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/cinema/everybody%E2%80%99s-talking-about-jamie-12a