Annie Jr
Mae’r ferch fach amddifad hawddgar Annie yn llawn plwc a gobaith er gwaethaf ei chefndir tlawd yn Ninas Efrog Newydd yn y 1930au. Mae hi’n benderfynol o ddod o hyd i’r rhieni a gefnodd arni flynyddodd yn ôl gan ei gadael ar stepen drws cartref plant amddifaid y Miss Hannigan greulon. Yn y pendraw mae Annie yn llwyddo i drechu cynllwynion y Miss Hannigan gas gan ffeindio cartref a theulu newydd gyda’r biliwnydd Oliver Warbucks, ei ysgrifenyddes personol Grace Farrell, a chi hoffus o’r enw Sandy
Am fwy gwybodaeth, ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/theatre/annie-jr