Advancing Aberystwyth - Y Goonies
Advancing Aberystwyth yn cyflwyno sgriniad byw o The Goonies yng Nghastell Aberystwyth
Oedran: 12
Hyd y ffilm: 1 awr 54 munud
Bydd unrhyw un a gafodd ei fagu yn yr 80au yn ystyried y Goonies fel un o’u ffefrynnau! Dyma anturiaeth deuluol glasurol yn nodweddu criw o blant direidus sy’n ceisio achub eu cartrefi trwy ddod o hyd i drysor cudd. Dewch â blanced neu gadair ac eisteddwch o dan y sêr gyda Chastell Aberystwyth fel cefndir!
Am fwy gwybodaeth a tocynnau, ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/cinema/advancing-aberystwyth-goonies