Dydd Cwn
Mae'r adeg honno o'r flwyddyn wedi cyrraedd eto…
Mae'r cwn bach yn dychwelyd!
Mae Cwn Tywys Ceredigion yn dod â'u cwn i'ch helpu chi i leddfu straen yr arholiadau ar 18 Mai rhwng 12 a 4! Felly sicrhewch eich bod chi'n dod ac yn rhoi rhodd o £1 fel bod modd i ni godi rhywfaint o arian i hyd yn oed enwi ein ci tywys ein hunain! P'un a ydych chi dan straen arholiad, traethawd neu fywyd yn gyffredinol, peidiwch â phoeni. Dewch i anwesu ci a chofiwch fod ein gwasanaeth cynghori gerllaw i'ch helpu chi drwy'r amser.
Gwelwn ni chi yno!