Raffl Gasglu ar gyfer Banc Bwyd
Helpwch Aberystwyth Jubilee Storehouses i ddarparu bwyd i bobl leol mewn argyfwng.
Ymhlith yr eitemau sydd eu hangen mae bagiau te, siwgr, grawnfwyd, cawl, reis, india corn, tiwna, pasta, siocled, papur ty bach neu unrhyw eitemau tun eraill!
Cewch docyn raffl ar gyfer pob eitem o fwyd a roddwch a chewch gyfle i ennill nwyddau Prifysgol Aberystwyth! Bydd y raffl yn cael ei chynnal ddydd Llun 26 Chwefror a byddwn ni'n cysylltu â'r enillwyr erbyn diwedd yr wythnos