Rhedwyr Harriers Yn Cymryd Dros Y Parc
Ras am ddim, 5km wedi'i hamseru yw Parkrun a gynhelir bob dydd Sadwrn am 9am.
Gwirfoddolwyr sy'n cynnal y digwyddiad hwn a ddydd Sadwrn 24 Chwefror, bydd Harriers Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi'r gymuned leol drwy helpu i gynnal y digwyddiad!
Heb wirfoddolwyr, ni fydd modd cynnal y digwyddiad wythnosol hwn. Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr i gymryd rhan, felly os hoffech chi gael gwybod mwy am wirfoddoli neu os hoffech chi roi cynnig ar redeg, dewch draw !
Bydd sesiwn wybodaeth i'r rhedwyr wrth gatiau Rhodfa Plascrug am 8.50am.
Gwisgwch ddillad addas (h.y. treinyrs a chit ffitrwydd) a dewch â photel fach o ddwr.
Os byddwch chi'n gwirfoddoli unrhyw bryd yn ystod yr wythnos, sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am yr hyn rydych chi'n ei wneud trwy ddefnyddio'r hashnodau #SVW2018 #GwirfoddoliAber