Canfod Cyfarwyddiadau
Mae angen gwirfoddolwyr ar Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i helpu i gynnal gweithdy cymunedol i ennyn diddordeb trigolion Penparcau yn eu treftadaeth drwy wneud mapiau a bathodynnau a mwynhau wrth dynnu hunluniau.
Mae'r cyfle hwn yn berffaith i'r rheiny sydd am ennill profiad o ennyn diddordeb y cyhoedd, yn ogystal â datblygu sgiliau mapio, ffotograffiaeth a gwaith tîm!
Does dim angen unrhyw brofiad a chewch wirfoddoli am un neu ddwy awr!
Os hoffech chi gymryd rhan, ewch i'r sesiwn wybodaeth am 5pm yng nghaffi Canolfan y Celfyddydau.
Os byddwch chi'n gwirfoddoli unrhyw bryd yn ystod yr wythnos, sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am yr hyn rydych chi'n ei wneud trwy ddefnyddio'r hashnodau #SVW2018 #GwirfoddoliAber