Prosiect Cerdyn Post
Dyma weithgaredd gwirfoddol sy'n berffaith i'r rheiny sydd â diffyg amser, ond sydd am wneud rhywbeth bach caredig a lledaenu ychydig o hapusrwydd.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod i adeilad Undeb y Myfyrwyr, addurno cerdyn post ac ysgrifennu neges lawen, ysbrydoledig neu ddoniol. Yna, rydyn ni am i chi adael y cerdyn post yn rhywle lle bydd rhywun yn cael hyd iddo i geisio codi calon rhywun mewn ffordd fach!
Darperir cardiau post, pennau ac eitemau crefft.
Os byddwch chi'n gwirfoddoli unrhyw bryd yn ystod yr wythnos, sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwybod i ni am yr hyn rydych chi'n ei wneud trwy ddefnyddio'r hashnodau #SVW2018 #GwirfoddoliAber