Academi Ymgeiswyr
ACADEMI YMGEISWYR
Yr Academi Ymgeiswyr yw eich cyfle chi i ganfod popeth rydych chi angen ei wybod ynglyn â'r gwahanol rolau swyddogion llawn-amser a rhan-amser, a sut maen nhw'n perthyn i Undeb y Myfyrwyr yn fwy cyffredinol. Gallwch weld y dyddiadau allweddol i gyd a ffeithiau am yr etholiadau, yn ogystal â holi cwestiynau i'r swyddogion cyfredol a'r staff ategol profiadol.
Mae croeso i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ddod i'r Academi Ymgeiswyr - does dim angen i chi fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol o'r swyddi, yr etholiadau neu hyd yn oed Undeb y Myfyrwyr, a does dim rhaid i chi ymrwymo i enwebu eich hun fel ymgeisydd drwy fynychu'r sesiwn.
Cynhelir Academi’r Ymgeiswyr am 2pm ddydd Mawrth 6, 13 ac 20 Chwefror, yn ogystal â dydd Mercher 14 a 21 Chwefror yn Ystafell Bwyllgor Undeb y Myfyrwyr.
Am fwy Gwybodaeth, ewch i: www.umaber.co.uk/etholiadau/