GWNEUD CARDIAU NADOLIG
Mae gennym ni grwp prosiect sydd wedi dod at ei gilydd i wneud cardiau Nadolig ar gyfer pobl a all fod yn treulio’r Nadolig yn yr ysbyty. Caiff y cardiau eu rhannu rhwng Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Plant Bryste. Os ydych chi am gymryd rhan, rydym yn bwriadu trefnu sesiynau crefft ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Sadwrn 25 Tach, 1-5pm
Dydd Sadwrn 2 Rhag, 1-5pm
Cynhelir y sesiynau hyn yn y Picturehouse. Rydym yn gofyn am gyfraniad bach o 50c - £1 ar gyfer talu am adnoddau os ydych chi’n gallu fforddio hynny.
Unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Emma ar suacademic@aber.ac.uk