Dydd Mercher Gwlanog
Cewch grosio, gwau, pwytho a gwneud gwaith crefft gyda'r Gymdeithas Wau ac Undeb y Myfyrwyr
Yn closio at y syniad o grosio neu'n dyheu i gael gwau? Dewch i liwio, pwytho neu beth bynnag sy'n eich plesio.
Beth am gael paned am ddim a sgwrsio dros brosiect newydd neu un presennol - rydyn ni'n cwrdd bob dydd Mercher yn yr Underground yn Undeb y Myfyrwyr (islaw'r grisiau o'r brif dderbynfa)
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r Gymdeithas Wau neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cewch wybod mwy yma: Cymdeithas Wau neu dudalen Facebook y Gymdeithas
O.N. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o'r Gymdeithas Wau i ymuno