DIGWYDDIAD I RIENI
Dewch draw i sesiwn Cwrdd a Chyfarch Undeb y Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr â phlant yn benodol.
Bydd Anifeilfa'r Borth yn dod i ymweld â ni, bydd modd peintio'ch wyneb, bydd gemau i'r plant a llond ystafell o grefftau! Hefyd, bydd helfa drysor i chi gymryd rhan ynddi gydol y dydd fel bod modd i chi a'ch plant wybod ble i fynd os bydd angen help arnoch yn ystod y flwyddyn!
Y cyfan sydd ei angen i chi ei wneud yw dod â bwyd ar gyfer cinio!
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10 a 4 a byddwn ni yn hafan Cwrt Mawr, sef y bloc canolog yng Nghwrt Mawr.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!