Fel Undeb Myfyrwyr rydym am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr, a gwyddom fod hyn yn eithaf anodd os ydych chi’n ynysu.
Rydyn ni'n gwybod na allwn ni wneud popeth yn well, ond rydyn ni'n darparu myfyrwyr sy'n gorfod ynysu, naill ai o ganlyniad i brawf positif neu oherwydd eu bod wedi’u hysbysu yn sgil y broses tracio, olrhain a diogelu, â phecyn ynysu.
Mae'r pecyn hwn o nwyddau yn gymysgedd o bethau hanfodol bob-dydd ynghyd ag ambell beth fydd yn dod â gwên i wyneb y rhai sy'n eu derbyn.
Yn ogystal â hyn, rydyn ni am gynnig pob cefnogaeth bosib y gallwn ni i chi - os oes rhywbeth rydych chi ei eisiau, ei angen neu rywbeth y gallwn ni ei wneud i helpu (gan gynnwys nwyddau mislif am ddim), neu os ydych chi ond awydd cael sgwrs, yna rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r ffurflen isod.
Diolch ar ran yr holl fyfyrwyr am ynysu a helpu i gadw Aberystwyth gyfan yn ddiogel.