Sylwi pan fyddwch chi’n llosgi allan, a sut i ymdopi â hynny
Heb os, mae mynychu prifysgol yn brofiad sy’n peri rhyw fath o straen i bob myfyriwr, ac mae'r pandemig diweddar wedi cynyddu’r teimladau hyn. Gall straen godi oherwydd sawl rheswm; gallai fod y canfyddiad o ofynion academaidd uwch; mynychu dosbarthiadau Zoom neu derfynau amser tynn. Hyn yn ogystal â cheisio cydbwyso gofynion astudio a gwaith cyflogedig ychwanegol, ceisio ymgyfarwyddo â bywyd personol rhithwir; ac wrth gwrs, pwysau ariannol.
Gyda hyn oll mewn golwg, gall straen cyson arwain at losgi allan. Yn y blog hwn, byddwn yn nodi'r arwyddion / symptomau y gallech fod yn llosgi allan, y 12 cam a all arwain at losgi allan ac yn gwneud awgrymiadau i’ch atal rhag llosgi allan yn y lle cyntaf.
Rhybudd: mae'r erthygl hon yn trafod sawl math o iechyd meddwl; anhwylderau bwyta, cam-drin cyffuriau, hunanladdiad a hunan-niweidio, iselder ysbryd a phryder.
Symptomau Llosgi Allan
Ydych chi’n poeni y gallech chi fod yn llosgi allan, ond yn ansicr o'r arwyddion? Rydym wedi llunio rhestr o symptomau y gallwch eu defnyddio fel canllaw cyffredinol.
- Gor-flinder. Teimlad o fod wedi blino’n eithafol, yn gorfforol ac yn emosiynol. Gall symptomau corfforol gynnwys poen pen, poenau stumog a newid o ran chwant bwyd neu gysgu (dim digon, gormod).
- Cadw ar Wahân. Mae pobl sy'n dioddef o losgi allan yn tueddu i deimlo eu bod wedi eu gorlethu. Gall hyn arwain at roi'r gorau i gymdeithasu ac o bosib peidio ag ymddiried mewn ffrindiau neu aelodau o'r teulu o ran trafod sut maen nhw'n teimlo.
- Dihangfa. Mae pobl sy’n ei chael yn anodd ymdopi â gofynion diddiwedd eu gradd neu eu bywyd yn gyffredinol, yn teimlo eu bod yn llosgi allan, gan ffantasïo am redeg i ffwrdd neu fynd ar wyliau ar eu pen eu hunain. Mewn achosion eithafol, gallant droi at gyffuriau, alcohol neu fwyd fel ffordd o geisio ymdopi â’u poen emosiynol.
- Tymer flin. Gall llosgi allan beri i bobl fod yn fwy tebygol o golli eu tymer gyda ffrindiau ac aelodau'r teulu. Mae hefyd yn bosib y bydd ymdopi â phwysau arferol fel ysgrifennu asesiadau, mynychu darlithoedd Zoom, a chyflawni tasgau syml yn y cartref yn teimlo'n amhosibl, yn enwedig pan nad yw pethau'n mynd fel roeddech chi wedi gobeithio.
- Salwch mynych. Gall llosgi allan, fel mathau eraill o straen hir-dymor, effeithio ar eich system imiwnedd, gan eich gwneud chi'n fwy agored i annwyd, y ffliw a methu cysgu. Gall hefyd arwain at bryderon iechyd meddwl fel iselder ysbryd a phryder
12 cam llosgi allan
Yn wahanol i annwyd neu'r ffliw, nid yw llosgi allan yn taro ar unwaith. Gall ddatblygu gam ar y tro, fel hyn:
- Bod yn rhy uchelgeisiol. Mae'n gyffredin i fyfyrwyr sy'n dechrau yn y Brifysgol deimlo gorfodaeth i brofi eu hunain a dangos eu gwerth wrth ymgymryd â thasg newydd. Nid nhw yw'r gorau am osod ffiniau, oherwydd eu bod bob amser yn barod i fynd y filltir ychwanegol gan eu gwneud yn agored i losgi allan.
- Gwthio'ch hun i weithio'n galetach. Mae rhai pobl yn methu rhoi’r gorau i weithio. Gall methu â rhoi'r gorau i weithio, ateb e-byst yn hwyr yn y nos neu e-bostio dros y penwythnos ac amharodrwydd i gymryd gwyliau, arwain at losgi allan.
(Fodd bynnag, mae astudiaethau wedi dangos bod cynhyrchiant yn disgyn yn gyflym ar ôl 50 awr o waith yr wythnos)
- Esgeuluso'ch anghenion eich hun. Rydych chi'n dechrau aberthu hunanofal syml. Fel cwsg, ymarfer corff, a bwyta'n dda. Mae pobl yn llosgi allan yn gyson os ydyn nhw'n esgeuluso'r anghenion hyn.
- Trosglwyddo’r gwrthdaro. Yn hytrach na chydnabod eich bod yn gwthio'ch hun i'r eithaf, rydych chi'n beio'ch darlithydd, gofynion eich gradd, eich swydd neu’r myfyrwyr eraill ar eich cwrs am eich trafferthion.
- Dim amser ar gyfer anghenion nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith. Rydych chi'n dechrau pellháu oddi wrth deulu a ffrindiau. Mae gwahoddiadau i bartïon, nosweithiau ffilm neu hyd yn oed bartïon Zoom yn dechrau teimlo fel gwastraff amser, yn hytrach na rhywbeth i edrych ymlaen atynt.
- Gwadu. Mae diffyg amynedd â'r rhai o'ch cwmpas yn cynyddu. Yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb am eich ymddygiadau, rydych chi'n beio eraill, gan eu gweld yn aneffeithiol, yn ddiog ac yn ormesol.
- Tynnu’n Ôl Rydych chi'n dechrau pellháu oddi wrth deulu a ffrindiau. Mae digwyddiadau cymdeithasol fel partïon, mynd i weld ffilm, neu wahoddiad allan am ginio yn dechrau teimlo'n feichus, yn lle bod yn bleserus. Rydych chi'n dechrau chwilio am ryddhad trwy gadw ar wahân a dyheu am gael dianc.
- Newidiadau o ran ymddygiad. Efallai y bydd y rhai sydd ar y ffordd i losgi allan yn mynd yn fwy ymosodol tuag at anwyliaid am ddim rheswm.
- Dadbersonoli. Teimlo ar wahân i'ch bywyd a'ch gallu i reoli'ch bywyd. Rydych chi'n dechrau methu â gweld eich gwerth eich hun na gwerth pobl eraill, gan fethu â chydnabod eich anghenion sylfaenol chi na phobl eraill.
- Gwacter mewnol neu orbryder. Mae 'Gwacter Mewnol' yn arwydd eithafol eich bod ar fin llosgi allan, sy’n cael ei ddiffinio gan fethu â theimlo unrhyw beth, neu 'wacter'. Efallai y byddwch chi'n ceisio cael rhyw fath o wefr er mwyn ymdopi â'r emosiwn hwn, fel camddefnyddio sylweddau, gamblo, neu orfwyta.
- Iselder. Mae bywyd yn colli ei ystyr ac rydych chi'n dechrau teimlo'n anobeithiol. Rydych chi'n dechrau teimlo'n golledig neu'n ansicr, wedi blino'n lân trwy'r amser gyda golwg ddigalon ar y byd o’ch cwmpas, a heb unrhyw frwdfrydedd dros y dyfodol.
- Syndrom Llosgi Allan. Mae syndrom llosgi allan llawn yn aml yn arwain at fethiant meddyliol a chorfforol llwyr unigolyn. Gall hyn effeithio ar eich gallu i ymdopi. Efallai y bydd angen cymorth iechyd meddwl neu feddygol.
Gweler isod am fudiadau a all eich helpu chi.
Atal Llosgi Allan
Efallai na ellir osgoi straen ar brydiau, ond yn sicr, mae modd atal llosgi allan. Mae’n bosib y bydd dilyn y camau isod yn eich helpu i atal straen rhag eich gormesu:
Gwneud ymarfer corff
Nid yn unig y mae ymarfer corff yn dda i'n hiechyd corfforol, ond gall hefyd roi hwb emosiynol i ni.
Yn teimlo fel nad oes gennych chi amser? Nid oes angen i chi dreulio oriau yn gwneud ymarfer corff neu yn y gampfa i elwa ar y manteision hyn. Mae gwneud ychydig bach ar y tro a ffurfio arferion da yn allweddol! Mae ychydig o ymarfer corff a cherdded tipyn bob dydd yn ffyrdd cyfleus o wneud ymarfer corff yn arfer rheolaidd; treuliwch yr amser hwnnw’n gwrando ar eich hoff artist neu bodlediad.
Beth am wrando ar ein 'rhestr chwarae ymlaciol' ar Spotify!
Bwyta diet cytbwys
Bwyta’n iach - mae diet sy’n llawn asidau brasterog omega-3 yn ffordd naturiol o wrthsefyll iselder. Gall ychwanegu bwydydd sy'n llawn omega-3s fel olew llin, cnau Ffrengig, a physgod helpu i roi hwb i'ch hwyliau. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn mynd i fwy o fanylion am ddiet a sut y gall effeithio ar eich hwyliau. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n edrych yn ôl bob wythnos i sicrhau eich bod chi'n cael ein holl awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwella'ch llesiant cyffredinol.
Arferion cysgu da
Mae’r cyfnod clo’n esgus perffaith i edrych ar eich arferion cysgu, gan nad oes yna ddigwyddiadau cymdeithasol a nosweithiau allan wythnosol i fynnu ein sylw. Mae angen amser ar ein cyrff i orffwys ac ailosod, a dyna pam mae arferion cysgu iach yn hanfodol ar gyfer ein llesiant cyffredinol.
Beth ydyn ni'n ei olygu wrth sefydlu trefn gysgu? Rhowch gynnig ar newidiadau bach fel osgoi caffein cyn amser gwely, cael cawod neu fàth cynnes; neu gall gwahardd ffonau clyfar a dyfeisiau digidol o'r ystafell wely helpu i hybu cwsg.
(Neu os ydych chi fel y rhan fwyaf o bobl, yn methu â byw heb eich ffôn ar fin-nos, addaswch y gosodiadau er mwyn cael gwared ar y golau glas sy'n dangos ar y sgrin.)
Gofyn am gymorth
Yn ystod cyfnodau llawn straen, mae'n bwysig estyn allan am help. Os yw gofyn am gymorth yn teimlo’n anodd, ystyriwch ddatblygu “gwiriad” hunanofal gyda ffrindiau agos ac aelodau o’r teulu, fel y gallwch ofalu am eich gilydd ar adegau anodd.
Os nad ydych chi'n teimlo y gallwch chi estyn allan at anwyliaid, yma yn UMAber rydyn ni'n darparu gwasanaethau galw-heibio digidol rheolaidd trwy gydol yr wythnos, neu gallwch chi drefnu sgwrs gyfrinachol gydag un o'n haelodau staff yn yr adran Gynghori.
Canolfan Gynghori UMAber
Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu fel arfer, ond yn rhithwir, o bell. Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Bydd y gwasanaeth yn cynnig sgyrsiau fideo trwy Zoom, yn ôl yr angen, yn ystod yr amseroedd arferol ar gyfer galw heibio, sef rhwng 10am-12pm ac 1pm-3pm, o ddydd Llun i ddydd Iau. Gallwch ddod o hyd i'r ddolen ar dudalen Facebook Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, neu ar ein gwefan yn yr hafan o dan ein dolen Facebook.
Ar-lein: Gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau
E-bost: undeb.cyngor@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 621712
Togetherall (a elwid gynt yn Wal Fawr Wen)
Cymuned ddiogel ar gyfer cymorth iechyd meddwl, 24/7; cofrestrwch gyda'ch e-bost myfyriwr AM DDIM.
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, does dim angen i chi geisio ymdopi ag amgylchiadau anodd ar eich pen eich hun. Mae Togetherall yn blatfform ar gyfer cymheiriaid, ac yn lle diogel i gysylltu ag eraill sy'n profi teimladau tebyg; mae gweithwyr proffesiynol hyfforddedig hefyd wrth law, 24/7. Mae pob aelod yn anhysbys i'w gilydd o fewn y gymuned.
Cofrestrwch yma: https://togetherall.com/en-gb/
- Y Samariaid
- Beth bynnag rydych chi'n mynd drwyddo, bydd y Samariaid yn ei wynebu gyda chi. Rydym ni ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Trwy E-bost: jo@samaritans.org (amser ymateb 24 awr)
Ffôn: 116 123
Rhowch gynnig ar Ap Hunangymorth y Samariaid
Space
- Cymorth un-i-un ar gyfer pa bynnag her rydych chi'n ei hwynebu, wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr. Boed yn iechyd meddwl, eich astudiaethau, arian, tai neu berthnasoedd, rydym yma i gynnig cymorth i chi.
Llinell Gymunedol ar gyfer Gwrando a Chynghori
Cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ynglyn ag Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. Gall unrhyw un sy'n poeni am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind ddefnyddio'r gwasanaeth. C.A.L.L. Mae’r llinell gymorth yn cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth yn ddienw.
Dros y Ffôn: 0800 132737
Neges destun: tecstiwch 'help' i 81066
Mind Aberystwyth
Mae Mind Aberystwyth yn un o dros ugain o gymdeithasau Mind lleol yng Nghymru, sy'n gweithio i wella bywyd pobl sy'n cael eu heffeithio gan drallod meddwl. Rydym yn elusen annibynnol, sy'n cael ei rhedeg gan bobl leol, ar gyfer pobl leol
Dros y ffôn: 01970 626225
Trwy E-bost: info@mindaberystwyth.org