Pwer Cynhyrchiant
Felly rydych chi’n credu nad ydych chi mor gynhyrchiol ag y gallech chi fod? Nid chi yw’r unig un!
Wyddech chi fod 70% o fyfyrwyr prifysgol yn cyfaddef eu bod yn euog o oedi yn hytrach na gweithredu?
Dyma sut roedden nhw’n defnyddio’u hamser:
- Roedd 39% yn pori trwy’r rhyngrwyd
- Roedd 20% yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Roedd 16% yn dewis gwylio’r teledu
- Roedd 5% yn treulio amser gyda ffrindiau
Roedd gan lawer ohonom obeithion uchelgeisiol ar ddechrau’r cyfnod clo. Roedden ni’n gweld hwn fel cyfle i adennill rhywfaint o amser hamdden a mynd ati i wneud yr hyn roedden ni’n hoffi ei wneud, ar ffurf hobïau neu ddiddordebau personol. Fel darllen llyfrau, cael trefn ar eich wardrob a chael gwared ar hen ddillad, creu eich man gweithio cyfforddus eich hun a manteisio ar yr amser nad ydych chi’n ei dreulio’n teithio i’r Brifysgol yn ymgymryd â mwy o dasgau nag erioed o’r blaen.
Ond i rai ohonom, nid yw pethau wedi gweithio allan fel hyn o gwbl. Mae hyd yn oed tasgau bach, oedd yn hawdd eu cyflawni o’r blaen, yn teimlo’n faich. Mae’r tasgau lleiaf erbyn hyn yn teimlo fel dringo mynydd, sydd i gyd ynghlwm â’r diffyg cymhelliant o’ch cwmpas.
Felly pa obaith sydd o ymladd yr awydd i ohirio gwaith, wrth i gadw pellter cymdeithasol lusgo ymlaen? Yn y bôn, rhaid i ni weithio allan pam ein bod ni’n oedi yn hytrach na gweithredu, a sut mae’r ymddygiad cyffredin yma’n perthyn i’r argyfwng cyfredol.
Beth sy’n gallu arwain at oedi a gohirio?
Straen
Nid oes unrhyw syndod, o ystyried effaith COVID-19, bod llawer ohonom yn dioddef lefel uchel o straen y dyddiau hyn, boed hynny oherwydd pryder ynghylch cyflwr y byd, unigedd cymdeithasol, ofnau ynghylch diweithdra pan fyddwch chi’n gadael y brifysgol neu golli eich swydd ran-amser oedd yn helpu â thalu’r biliau. Hyn yn ogystal ag ymdopi o bosib â salwch a cholli aelodau o’r teulu neu ffrindiau.
Diffyg Canllawiau
Rydych chi’n deffro ar fore Llun ar ôl penwythnos digon cyffredin, gwneud brecwast, ac eistedd wrth eich desg i ddechrau astudio ar gyfer yr wythnos. O ystyried popeth, mae patrwm eich diwrnod braidd yn niwlog, does dim amserlen bendant, ac eithrio darlithoedd, felly mae’r cyfrifoldeb arnoch chi i gynllunio’ch diwrnod.
Newid Blaenoriaethau
Mae’r newid sydyn i astudio o bell wedi peri i chi ail-ffocysu. Yn ogystal â’r pandemig, gofynnwyd cwestiynau o amgylch y byd ynghylch hil, trais ar ran yr heddlu, gwleidyddiaeth a phenderfyniadau cyllidol. Mae hyn wedyn wedi peri i lawer o bobl gydnabod beth sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw.
Mae pobl yn teimlo’n fwyfwy pryderus, ac mae gofynion cyrsiau gradd yn teimlo’n llai pwysig na’r materion eraill sy’n llenwi meddyliau pobl. Bydd gennych chi lai o gymhelliant pan fyddwch chi’n ystyried yr hyn rydych chi am ei flaenoriaethu, yn arbennig yn niffyg llwybr clir ymlaen.
Llai o Ryngweithio Cymdeithasol
Mae’n bosib na fyddwch chi hyd yn oed wedi symud i Aberystwyth eleni, neu os ydych chi wedi symud yma ym mis Medi, mae’n bosib na fyddwch chi eto wedi cael cyfle i dreulio amser mewn darlithfa ddiriaethol; gallai hyn fod wedi arwain at ddiffyg cyswllt cymdeithasol.
Gall perthnasoedd cymdeithasol, yn arbennig ar eich cwrs, neu yn sgil bod mewn ystafell ddosbarth, greu cymhelliant. Gallwch rannu syniadau neu weithio trwy broblemau gyda’ch gilydd, gan eich ysbrydoli i gwblhau eich aseiniadau. Rydym i gyd yn gwybod y gall perthnasoedd cymdeithasol effeithio ar deimlad o berthyn, hunaniaeth a boddhad â’ch bwyd o ddydd-i-ddydd.
Llosgi Allan
Gallwch fwrw golwg ar y blog o’r wythnos ddiwethaf ar losgi allan. Mae’n gyfuniad o deimladau, gan gynnwys gorflinder, sinigiaeth ac arwahanrwydd sy’n gallu arwain at fyfyrwyr yn colli pob diddordeb, gan gyflawni cyn lleied â phosib yn hytrach na gwneud eu gorau.
Byddwch yn ninja cynhyrchiant!
Rydych chi wedi cydnabod bod eich cynhyrchiant wedi disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydych chi am adfer y sefyllfa honno. Dim problem! Rydyn ni wedi llunio rhai hintiau handi i’ch rhoi chi ar ben y ffordd i gynhyrchiant!
Creu’r amgylchedd cywir
Mae’n anodd bod yn gynhyrchiol pan fo’ch amgylchedd yn tynnu eich sylw oddi ar eich gwaith. Pethau bach fel methu dod o hyd i bethau neu deimlo’n anghyfforddus yn eich amgylchedd astudio. Felly dyma rai awgrymiadau i’ch gosod chi ar y llwybr cywir!
Buddsoddwch yn eich dodrefn / defnyddiwch eich dodrefn
Efallai eich bod chi wedi meddwl bod eistedd ar waelod eich gwely, neu hyd yn oed eistedd yn y gwely, yn ‘iawn am y tro’ wrth astudio dan amodau clo, fodd bynnag, gan fod y cyfnod clo wedi para am fwy o amser nag oedd unrhyw un ohonom wedi meddwl, mae’n bryd i chi ail-feddwl am eich lleoliad astudio. Mae’r rhan fwyaf o lety myfyrwyr yn dod gyda deg a chadair, felly dechreuwch eu defnyddio os nad ydych chi’n gwneud hynny eisoes! Ond os ydych chi’n byw mewn llety yn y sector preifat, efallai ei bod yn werth i chi ystyried buddsoddi mewn dodrefn. Er ei bod yn ymddangos y bydd y cyfnod clo’n dod i ben yn fuan, mae’n dal i fod yn fuddsoddiad ar gyfer gweddill eich blynyddoedd yn y Brifysgol.
Mae cadair anghyfforddus nid yn unig yn ei gwneud yn anoddach i chi ganolbwyntio ar eich astudiaethau, ond gall wneud niwed hir-dymor i’ch corff (yn enwedig eich cefn). Os ydych chi’n gallu, prynwch gadair sy’n cynnal eich meingefn, fel y byddwch yn eistedd â’ch cefn yn syth! Os oes gennych chi ddigon o le a’r arian, buddsoddwch mewn desg o faint digonol; bydd hyn yn caniatáu i chi fod â’r holl ddeunyddiau astudio sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich gwaith, gan leihau’r oedi sy’n perthyn i orfod chwilio am bethau!
Cael gwared ar anibendod
Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â hyn, ond anaml fyddwn ni’n ei flaenoriaethu! Mae anibendod yn creu straen; ac nid yw ardal astudio ddidrefn yn arwain at feddwl cynhyrchiol. Treuliwch funud neu ddwy yn edrych yn ofalus ar eich ardal astudio, cewch wared ar y pethau nad oes eu hangen a thacluswch yr hyn sydd ar ôl; gwnewch hyn nawr!
Buddsoddwch mewn offer ysgrifennu newydd
Mae fel mynd yn ôl i’r ysgol; does dim byd gwell na chael set newydd o offer ysgrifennu. Prynwch eitemau y byddwch chi’n mwynhau eu defnyddio, boed hynny’n badiau ysgrifennu, trefnwyr, calendrau, clipiau-papur lliwgar neu nodiadau post-it. Rydych chi’n fwy tebygol o eistedd wrth eich desg a mynd ati i astudio pan fydd gennych chi’r arfau cywir i astudio â nhw, gan eich gwneud i deimlo’n fwy trefnus ac yn barod i gyflawni unrhyw beth!
Cael gwared ar wrthdyniadau
Nawr eich bod chi wedi cael trefn ar eich ardal astudio, mae angen i ni ystyried y pethau sy’n tynnu eich sylw oddi ar eich gwaith.
Dod o hyd i’ch math chi o dawelwch
P’un a ydych chi’n rhannu ty gyda myfyrwyr eraill neu’n aros gartref gyda’ch teulu gyda’ch rhieni’n eich plagio i gyflawni tasgau o gwmpas y ty, dydy hyn ddim yn amgylchedd da i geisio mynd ati i astudio ynddo!
Ceisiwch ganfod man tawel yn eich cartref a dewiswch hwnnw fel eich ardal waith; gall fod yn eich ystafell-wely neu’n ystafell sbâr. Rhowch gynnig ar osod nodyn ar y drws yn gofyn yn gwrtais am gael llonydd i weithio; rhowch derfyn amser ar y nodyn fel bod ffrindiau / cyd-letywyr / teulu’n gwybod eich bod yn astudio, ac i gadw lefel y swn yn isel.
Dod o hyd i’ch rhestr-chwarae berffaith
Nid yw pawb yn gallu canolbwyntio gyda cherddoriaeth yn y cefndir, ond mae llawer o bobl y teimlo bod gwrando ar eu hoff ganeuon yn cynyddu eu cynhyrchiant a’u lefelau canolbwyntio.
Gallai cerddoriaeth hefyd helpu i greu’r arwahaniad sydd ei angen arnoch chi i astudio os ydych chi’n byw mewn ty lle mae yna gryn lawer o brysurdeb. Ceisiwch osgoi cerddoriaeth y brif ffrwd, gan fod peryg y cewch eich denu i wrando ar y geiriau os ydyn nhw’n gyfarwydd i chi.
(mae croeso i chi wrando ar ein rhestr chware sydd wedi’i chreu’n arbennig i helpu â hybu eich cynhyrchiant)
Diffodd eich ffôn!
Dyma un y dylem ni i gyd wneud llai ohono; does dim byd yn tarfu ar eich gallu i ganolbwyntio’n fwy na’ch ffôn yn dirgrynnu ac yn goleuo bob munud er mwyn rhoi gwybod i chi bod rhywun wedi anfon neges.
Felly, am y cyfnod y byddwch chi’n astudio, beth am dawelu eich ffôn a’i roi o’r golwg fel na fydd yn tynnu eich sylw. Trefnwch eich amser astudio fel eich bod yn gwirio’ch ffôn bob awr neu ddwy, yn hytrach na bob 5 munud. Byddwch yn synnu faint o amser y bydd hyn yn ei arbed, a fydd eich meddwl ddim yn crwydro cymaint!
Rydyn ni i gyd yn euog o sgrolio trwy wahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwastraffu cryn lawer o amser yn ystod y dydd yn gwneud hynny. Rhannwch eich diwrnod astudio trwy osod amser penodol ar gyfer edrych ar gyfryngau cymdeithasol. Peidiwch â chadw tabiau ar agor ar eich gliniadur, gan ddefnyddio’ch ffôn yn unig ar gyfer hynny, fel nad ydych chi’n derbyn negeseuon ar eich cyfrifiadur.
Wedi’r cyfan, mae cyfryngau cymdeithasol weithiau’n gwneud mwy o ddrwg na lles, gan effeithio ar gynhyrchiant a’n iechyd meddwl yn gyffredinol.
Pethau eraill sy’n tynnu eich sylw
Mae myfyrwyr yn aml yn gwylio’u hoff raglenni teledu, neu hyd yn oed cyfresi cyfan, wrth astudio. Mae hyn yn arwain at waith o safon wael, a gall olygu eich bod yn cymryd mwy o amser nag y dylech i gwblhau’r dasg rydych chi wedi’i gosod i chi’ch hun.
Yn hytrach na bod â’r teledu ymlaen yn y cefndir, beth am gwblhau eich tasgau am y diwrnod a defnyddio’r teledu fel gwobr? Nid yn unig fyddwch chi’n fwy cynhyrchiol, bydd hyn yn rhannu’ch diwrnod, a byddwch yn mwynhau’r gyfres cymaint yn fwy, gan y byddwch chi’n gallu canolbwyntio 100% wrth i’r ddrama ddatblygu.
Cynllunio seibiannau rheolaidd
Mae ymchwil yn awgrymu bod cymryd seibiant bob 90 munud yn cynyddu’ch gallu i ganolbwyntio a’ch cynhyrchiant.
Ymarfer corff
Byddwn yn rhoi mwy o sylw i hyn ymhen ychydig wythnosau, ond mae ymarfer corff yn bwysig iawn o ran eich cynhyrchiant. Mae astudiaethau wedi dangos bod cerdded ychydig o bellter yn gallu gwella creadigrwydd 81% o’r rhai a gymerodd ran.
Felly, p’un a yw’n seibiant o 5 munud i ffwrdd o’ch desg i ymestyn y cyhyrau, neu’n gerdded i’ch hoff siop am rywbeth i’w fwyta, mae’n bwysig symud!
Cael trafferth gydag aseiniad? Mynnwch rywbeth i’w fwyta!
Mae’n wir! Mae tystiolaeth bod byrbrydau priodol trwy gydol y dydd yn gwella’ch cynhyrchiant.
Dyma rai bwydydd y gallwch chi eu bwyta i wella’ch perfformiad, rhoi egni i’ch ymennydd a chadw’ch diwrnod ar y trywydd cywir.
- Afocado. Mae’r rhain yn eich helpu rhag teimlo’n rhy llawn ar ôl cinio swmpus; maen nhw’n flasus ar eu pen eu hun, gyda siwgr neu halen, neu fel rhan o’ch salad.
- Melon dwr. Does dim byd fel melon dwr, coch a blasus, i roi egni a maeth i chi heb unrhyw galorïau. Mae’n wych ar gyfer rhoi hwb i’ch egni.
- Siocled tywyll. Bydd un bar bach y dydd yn diwallu’ch awydd am rywbeth melys, yn ogystal â’ch darparu â llwyth o gemegau gwrthwenwynol.
- Mafon. Maen nhw’n llawn cemegau gwrthwenwynol, sy’n dda ar gyfer niwtraleiddio’r ‘free radicals’ sy’n effeithio ar gelloedd eich gwaed.
- Almonau. Gwych ar gyfer eich ymennydd
- Rhesins. Angen mwy o egni? Mynnwch becyn o resins. Maen nhw’n uchel mewn egni a chemegau gwrthwenwynol; yn ogystal â bod yn isel mewn braster a chalorïau.