Cyngor

Angen cymorth?

Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb Aber wedi'i leoli yn adeilad yr Undeb ar gampws Penglais a gall roi cymorth i chi ynghylch amryw o faterion. Rydym yn darparu cyngor am ddim mewn amgylchedd proffesiynol ond cyfeillgar ac mae gan ein cynghorwyr brofiad o ddelio â gweithdrefnau a phrosesau'r Brifysgol. Ni fyddwn yn eich beirniadu; rydym yma i'ch helpu gymaint â phosib beth bynnag fo'ch problemau. 

Gan ein bod yn annibynnol o'r Brifysgol, gallwn eich cynrychioli heb unrhyw wrthdaro o ran buddiannau. Ymdrinnir â phob ymholiad yn gwbl gyfrinachol, sy'n golygu na fyddwn yn datgelu unrhyw beth rydych wedi ei ddweud wrthym oni fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.


Mae’r Gwasanaeth Cynghori’n gweithredu fel arfer drwy ddulliau mewn person ac ar lein; gallwch gysylltu â’r gwasanaeth gan ddefnyddio’r manylion isod. Fel arall - anfonwch e-bost i drefnu apwyntiad MS Teams.

Ar-lein: Defnyddio ein ffurflen ymholi 

E-bost: undeb.cyngor@aber.ac.uk

Ffôn: 01970 621712 


Gyda beth allwn ni eich helpu?

       
             
       

** Tynnwyd rhai o’r lluniau hyn gan ein ffotograffwyr myfyrwyr!


Yr hyn mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am y gwasanaeth…

“Roedd y gwasanaeth a gefais y tu hwnt i'r disgwyl. Aeth y Cynghorwr Myfyrwyr y filltir ychwanegol i fy helpu â fy mhroblem. Buon nhw'n hyfryd a gwnaethon nhw fy helpu i ddeall beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd a sut y byddai modd i ni ddelio â fe”.

Dienw


Cysylltu â Chynghorydd

 

 


Sylwch: pan fyddwch yn cysylltu â ni am gyngor, byddwn yn agor ffeil achos gyfrinachol ar eich cyfer ac yn cofnodi eich gwybodaeth bersonol, manylion eich ymholiad ac unrhyw gyngor a roddir.

Caiff yr wybodaeth a gesglir ei defnyddio at ddibenion ystadegau yn unig ac ni fyddwn yn eich datgelu wrth greu adroddiadau. Caiff eich manylion eu cofnodi a'u storio'n ddiogel yn unol â'r Ddeddf Gwarchod Data 1998 a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Ni chaiff gwybodaeth bersonol ei rhannu â neb y tu hwnt i'r gwasanaeth heb eich caniatâd, ac eithrio'r archwilwyr at ddibenion cyrraedd y Safon Ansawdd Cynghori (AQS). Mewn rhai achosion, mae'n bosib y byddant yn archwilio eich ffeil achos fel rhan o'r broses hon ond bydd unrhyw ddata personol a adolygir yn gyfrinachol o hyd.

Os nad ydych yn cytuno bod modd i'r Gwasanaeth Cynghori gofnodi a storio manylion eich achos neu os nad ydych yn fodlon i'ch ffeil fod ar gael i'r AQS at ddibenion archwilio, rhowch wybod i ni.

Hysbysfwrdd

Gwasanaeth Gyngor Undeb Aber

Wythnos yma: Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener

Angen cyngor? Siaradwch â'n Cynghorydd Myfyrwyr cyfeillgar:

Ar lein dydd Llun

Mewn person dydd Mawrth

Ar lein dydd Mercher

Mewn person dydd Iau

Ar lein dydd Gwener

Anfonwch e-bost i drefnu apwyntiad MS Teams.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576